Sylwer: Cynhelir y digwyddiad hwn gan sefydliad allanol ac fe’i rhennir i dynnu sylw at gyfleoedd a allai fod o ddiddordeb i’n cymuned. Nid yw wedi’i drefnu na’i gymeradwyo gan ExChange, a dylid gwneud pob archeb, taliad ac ymholiad yn uniongyrchol gyda darparwr y digwyddiad. Nid yw ExChange yn gyfrifol am y cynnwys, y cyflwyniad nac unrhyw newidiadau sy’n ymwneud â’r digwyddiad hwn.
Mae Become yn cynnig nifer o gyrsiau i ofalwyr sy’n canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc trwy gyfnodau pontio. I gael rhagor o wybodaeth am bob cwrs, cliciwch ar y ddolen i’r cwrs unigol.
Cefnogi Pobl Ifanc gyda Chyllidebu a Chyllid – Mae’r hyfforddiant hwn yn edrych ar y problemau mae pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ac ymadawyr gofal yn eu hwynebu ynghylch cyllidebu a chyllid.
Cefnogi Pobl Ifanc trwy Gyfnodau Pontio – Lluniwyd y digwyddiad hwn ar y cyd â phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, gan edrych ar y cyfnodau pontio amrywiol ym maes gofal a sut mae eu rheoli yn effeithiol.
Cefnogi Lles Pobl Ifanc sydd â Phrofiad o fod mewn Gofal – Mae’r cwrs hwn yn cydnabod yr effaith bosibl ar les emosiynol ac iechyd meddwl pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
Cefnogi Pobl Ifanc wrth iddyn nhw bontio i Addysg Uwch – Mae’r digwyddiad hyfforddi byr hwn yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol am y broses o wneud cais am le mewn prifysgol i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a sut i sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth wrth iddyn nhw bontio i fyd addysg uwch ac yn ystod eu hamser yno.
