Hawliau Dynol Plant yn y System Gofal Cymdeithasol yn Lloegr
O blith mwy na 12 miliwn o blant sy’n byw yn Lloegr, mae tua 400,000 yn y system gofal cymdeithasol ar unrhyw adeg. O’r rhain, mae bron i 84,000 o blant yn Lloegr mewn gofal, ag awdurdodau lleol yn gofalu amdanynt. Er bod y plant hyn ymhlith y rhai mwyaf bregus, sydd angen eu hamddiffyn yn ein cymdeithas, rydym wedi canfod nad yw eu hawliau dynol bob amser yn cael eu parchu. Edrychodd yr ymchwiliad hwn ar sawl agwedd ar y fframwaith gofal cymdeithasol plant i ymchwilio i faterion hawliau dynol sy’n effeithio ar blant a phobl mewn gofal, y rhai sy’n gadael gofal, a’r rhai sy’n cael cymorth gan y system gofal cymdeithasol plant.
