Mae Become yn cynnig nifer o gyrsiau i ofalwyr sy’n canolbwyntio ar rymuso pobl ifanc. I gael rhagor o wybodaeth am bob cwrs, cliciwch ar y ddolen i’r cwrs unigol.

Grymuso Pobl Ifanc mewn Gofal: Dull Hyfforddi – Mae’r digwyddiad hyfforddi hwn yn cyflwyno dull hyfforddi i weithio gyda phobl ifanc mewn gofal ac ymadawyr gofal.

Meithrin Perthnasoedd gyda Phlant a Phobl Ifanc Mewn Gofal – Lluniwyd y digwyddiad hyfforddi hwn ar y cyd â phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, gan edrych ar sut i ymdrin yn effeithiol â phlant a phobl ifanc mewn gofal a meithrin perthynas â nhw.

Dulliau sy’n canolbwyntio ar Atebion – Mae’r hyfforddiant hwn yn edrych ar theori defnyddio dulliau sy’n canolbwyntio ar atebion gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Pwysigrwydd Iaith – Mae’r sesiwn hyfforddi hon yn edrych ar y derminoleg sy’n cael ei defnyddio’n aml yn y system gofal a’r effaith posibl ar bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.