Sylwer: Cynhelir y digwyddiad hwn gan sefydliad allanol ac fe’i rhennir i dynnu sylw at gyfleoedd a allai fod o ddiddordeb i’n cymuned. Nid yw wedi’i drefnu na’i gymeradwyo gan ExChange, a dylid gwneud pob archeb, taliad ac ymholiad yn uniongyrchol gyda darparwr y digwyddiad. Nid yw ExChange yn gyfrifol am y cynnwys, y cyflwyniad nac unrhyw newidiadau sy’n ymwneud â’r digwyddiad hwn.
Mae Canolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn cynnal pumed Ysgol Haf ar-lein mewn Ymchwil Iechyd Meddwl Pobl Ifanc rhwng dydd Llun 29 Mehefin a dydd Mercher 1 Gorffennaf 2026. Mae’r rhaglen yn para tridiau, yn rhad ac am ddim, ac yn cynnig cyflwyniad i ymchwil iechyd meddwl pobl ifanc, gan gynnwys sgyrsiau a gweithdai gan arbenigwyr blaenllaw mewn epidemioleg, geneteg, niwrowyddoniaeth, a datblygu ymyriadau.
Mae’r ysgol haf ar agor i’r canlynol:
- Gwyddonwyr ymchwil (myfyrwyr PhD, gradd meistr, ôl-ddoethurol, neu israddedigion yn eu trydedd flwyddyn)
- Hyfforddeion Clinigol (Hyfforddiant Sylfaen, Craidd, neu Arbenigol)
- Unrhyw un sydd â diddordeb mewn cychwyn ym maes ymchwil iechyd meddwl pobl ifanc neu sydd am gael cyflwyniad i’r maes
Bydd cyfleoedd hefyd i’r sawl sy’n bresennol rwydweithio, cael arweiniad ar ddatblygu eu gyrfa, a chael trafodaethau ar drosi ymchwil yn bolisi ac ymarfer.
