In Care and Incredible: 30 Care Experienced Superstars You Need to Meet
Bydd y llyfr plant ‘In Care and Incredible: 30 Care Experienced Superstars You Need to Meet’, a ysgrifennwyd gan Dr Rosie Canning a Dr Dee Michell ac a ddarluniwyd gan Lauren Fernandes, yn cael ei gyhoeddi ar 21 Gorffennaf 2026.
Mae’r llyfr yn tynnu sylw at ffigurau hanesyddol a chyfoes adnabyddus a brofodd fabwysiadu, gofal maeth, gofal gan berthnasau neu ofal preswyl yn ystod eu plentyndod. Drwy bortreadau bywgraffyddol hygyrch, mae’r llyfr yn anelu i herio stereoteipiau negyddol am blant mewn gofal ac oedolion sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
Mae’n cynnwys athletwyr sy’n torri recordiau, awduron arobryn, ymgyrchwyr, dyfeiswyr ac arweinwyr sydd wedi llunio hanes, gan gynnwys Syr Isaac Newton, Barack Obama a Jenni Fagan. Bydd darllenwyr y llyfr yn dysgu am straeon 30 o bobl anhygoel a dreuliodd beth amser mewn gofal maeth, a fu’n byw gyda pherthnasau neu a gafodd eu mabwysiadu.
Yn ogystal â dathlu cyflawniadau unigol, mae’r llyfr yn gosod y straeon hyn mewn hanes cymdeithasol ehangach o ofal, perthyn a chynrychiolaeth. Mae’n gofyn straeon pwy sy’n cael eu gwneud yn weladwy, a sut mae profiad o fod mewn gofal yn cael ei ddeall ar draws amser ac ar draws gwahanol feysydd.
Mae’n adnodd gwych i deuluoedd, darparwyr gwasanaethau, addysgwyr, ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn pobl wych sydd â phrofiad o fod mewn gofal drwy hanes.
Gallwch ddysgu mwy am ‘In Care and Incredible: 30 Care Experienced Superstars You Need to Meet’ yma – https://uk.jkp.com/products/in-care-and-incredible?_pos=6&_sid=4f96599fc&_ss=r
