Rhianta Corfforaethol
Beth yw Rhianta Corfforaethol?
Pan fydd plentyn yn dod i ofal, mae gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb statudol i fod yn ‘rhiant corfforaethol’. Mae hyn yn golygu bod ganddo’r cyfrifoldeb i fod y rhiant gorau y gall fod i’r plentyn hwnnw, ar y cyd â’i aelodau etholedig, ei gyflogeion, ac asiantaethau partner. Rhaid i bob aelod o’r cyngor a chyflogai’r cyngor weithredu dros y plentyn hwnnw yn yr un modd ag y byddai rhiant da yn gweithredu dros eu plentyn eu hunain.
Bod eisiau’r gorau i’r plentyn yw bod yn rhiant corfforaethol, er mwyn iddyn nhw:
- ffynnu gydag iechyd da
- bod yn ddiogel ac yn hapus
- gwneud yn dda yn yr ysgol a mwynhau perthnasau da â’u cyfoedion
- cyfrannu at eu cymuned
- manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd hamdden, gwasanaethau gwaith ieuenctid, hobïau a diddordebau
- datblygu i fod yn oedolion sy’n barod i fyw bywyd annibynnol
- dod yn oedolion sydd wedi cael addysg, sydd â gyrfaoedd da, swyddi y maen nhw wedi’u dewis, a sefydlogrwydd ariannol
Er mai cyfrifoldeb statudol awdurdodau lleol yw rhianta corfforaethol, gall unrhyw sefydliad fod â rôl ym mywyd plentyn neu berson ifanc. Dyna pam rydyn ni’n annog holl gyrff y sector cyhoeddus, y sector preifat a sefydliadau’r trydydd sector i ddod yn rhiant corfforaethol i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
Yn fras, y nod yw trin plentyn neu berson ifanc sydd â phrofiad o ofal gyda’r cariad a’r gefnogaeth y byddech chi’n trin eich plentyn ei hun.
Siarter Rhianta Corfforaethol
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Siarter Rhianta Corfforaethol er mwyn i sefydliadau sydd eisiau dod yn rhiant corfforaethol gofrestru – dolen isod
Siarter rhianta corfforaethol | LLYW.CYMRU
Ar ôl ymrwymo i’r siarter, mae sefydliadau’n cael llythyr croeso a thempled addewid gan Lywodraeth Cymru.
Beth mae rhianta corfforaethol yn ei olygu
Yn cyd-fynd â’r Siarter mae Pecyn Cymorth Rhianta Corfforaethol sy’n nodi sut y gall sefydliadau helpu i ofalu am bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, dolen isod.
Beth-mae-bod-yn-rhiant-corfforaethol-yn-ei-olygu.
Gallai’r help hwn olygu:
- cynnwys y plentyn mewn penderfyniadau am ei ofal, os ydych yn awdurdod lleol neu awdurdod iechyd;
- cynnwys pobl ifanc â phrofiad o ofal wrth gynllunio eich gwasanaeth;
- ailwerthuso arferion cyflogi i annog cyflogaeth a gwell cyfleoedd i bobl ifanc â phrofiad o ofal.
Cymuned Ymarfer
Bwriad Llywodraeth Cymru yw sefydlu Cymuned Ymarfer i sefydliadau sydd wedi ymrwymo i’r Siarter yn yr hydref, 2026. Pwrpas y Gymuned Ymarfer hon fyddai rhoi fforwm i sefydliadau:
- Hyrwyddo trafodaeth gynhyrchiol ac annog atebion cydweithredol mewn agweddau y mae aelodau’n eu cael yn heriol, er enghraifft sut i gyrraedd cytundeb partneriaeth.
- Tynnu sylw at lwyddiannau, rhannu gwersi a ddysgwyd/peryglon a sut i oresgyn heriau cyffredin.
Y gobaith yw y bydd cyfarfod cyntaf y fforwm yn cael ei gynnal ddechrau mis Hydref 2026.
Os hoffech chi ddysgu rhagor am sut y gall eich sefydliad fod yn rhiant corfforaethol neu gymryd rhan yn y Gymuned Ymarfer, e-bostiwch rhiantacorfforaethol@llyw.cymru.
Rydyn ni hefyd yn bwriadu defnyddio’r lle hwn i rannu gwybodaeth ac arferion da.
