Mae’r cyhoeddiad hwn yn ymdrin â phynciau sensitif a allai beri gofid gan gynnwys marwolaeth, hunanladdiad, hunan-niweidio, a phrofiadau pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal ac sydd wedi cael niwed.
Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio canfyddiadau dadansoddiad o bobl ifanc rhwng 18 a 24 oed a oedd wedi bod mewn gofal ac a ddioddefodd farwolaethau cynnar. Nod yr adolygiad yw tynnu sylw at fywydau’r bobl ifanc a fu farw, gyda’r bwriad o’u deall a chynnig sail i sgwrs genedlaethol am yr hyn y mae angen i ni ei wneud yn well yn y dyfodol i atal marwolaethau cynnar ymhlith pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
