Cefnogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd: Gwerthusiad o’r Rhaglen Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl yng Nghymru
Mae gofal cymdeithasol plant yng Nghymru yn wynebu ‘argyfwng gofal’ a nodweddir gan nifer cynyddol o blant sy’n dod i ofal, pwysau ar ddarpariaeth gofal, prinder lleoliadau addas, anawsterau wrth recriwtio a chadw gofalwyr maeth, a galwadau cynyddol ar y gweithlu gofal cymdeithasol. Mae’r heriau hyn yn tynnu sylw at yr angen am ddulliau ataliol a rhai ar ffiniau gofal, megis Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl, sy’n cefnogi plant i aros yn ddiogel yn eu teuluoedd lle bynnag y bo modd.
Mae rhaglen Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl yn cefnogi teuluoedd ar ffiniau gofal, gyda’r nod o leihau nifer y plant sy’n dod i ofal a chefnogi cysylltiadau a chapasiti teuluoedd. Mae teuluoedd yn cael eu paru â Gofalwr Maeth Cymorth i Deuluoedd sy’n darparu gwasanaeth mentora a chymorth ymarferol i rieni, yn ogystal â seibiannau byr i blant a phobl ifanc. Darperir cymorth ehangach dros gyfnod o 12–15 mis, sy’n cynnwys rhaglenni hyfforddi rhieni, grwpiau plant a gweithgareddau teuluol yn y gymuned. Yn dilyn llwyddiant Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl yng Ngogledd Iwerddon, mae’r rhaglen wedi’i threialu yn Sir Benfro a Phowys.
Canolbwyntiodd cam cyntaf y gwerthusiad ar weithredu’r cynllun peilot Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl yn Sir Benfro (Mannay et al 2026). Yn ystod y cyfnod gwerthuso, llwyddodd 12 teulu (23 o blant) i gamu yn ôl o’r gwasanaeth, ar ôl cyfnod o 14 mis ar gyfartaledd, gan gefnogi plant rhwng pum mis ac 11 oed. Ymhlith y teuluoedd a ymgysylltodd â’r rhaglen yn Sir Benfro, cyflawnodd y gwasanaeth gyfradd llwyddiant o 95%, gyda 22 o’r 23 o blant yn cael cefnogaeth i gynnal trefniadau gofal gartref. Ar ddiwedd y cyfnod gwerthuso, roedd y gwasanaeth yn cefnogi 11 o deuluoedd (26 o blant), gyda phum teulu ychwanegol yn aros am gael eu dyrannu.
Roedd y gwerthusiad yn cynnwys plant, rhieni a Gofalwyr Maeth Cymorth i Deuluoedd, yn ogystal â staff sy’n gweithio’n uniongyrchol i’r Rhwydwaith Maethu yng Nghymru, gweithwyr cymdeithasol ac Uwch Arweinwyr Awdurdodau Lleol a oedd yn rhan o broses comisiynu, trefnu a chyflwyno Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl. Cynhyrchwyd data drwy ddulliau creadigol, cyfweliadau, arsylwadau a dadansoddi data eilaidd.
Disgrifiodd plant a phobl ifanc Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl gydag ymadroddion fel ‘caru’, ‘hapus’ a ‘hwyl’ wrth drafod gweithgareddau, perthnasoedd a chyfeillgarwch. Gwnaethant hefyd nodi sut y gwnaeth y rhaglen eu cynorthwyo gyda dulliau rheoli emosiynau a sgiliau magu perthynas, fel y gallent ddeall sut mae teimladau’n gweithio a dysgu adnabod eu teimladau eu hunain. Adroddodd rhieni hefyd am fanteision cyfleoedd dysgu.
Rydw i wedi gweld gwelliannau mawr yn y ffordd rydw i’n rhianta… Un peth rydw i wedi’i ddeall go iawn o grŵp PACE yw atgyweirio…. Roedd e jest yn anodd iawn. Ond wrth fynd i’r grwpiau rhieni, rydw i wedi dysgu sut i fod yn rhiant gwell… mae rhianta’n anodd beth bynnag, ond pan fyddwch chi’n rhianta gydag iechyd meddwl a niwroamrywiaeth, mae’n gêm hollol newydd… Un o’r pethau y gwnaethom ei ddysgu ychydig wythnosau yn ôl oedd olwyn emosiynol… A phan… mae [fy merch] yn sydyn yn dechrau sgrechian a chrio dros rywbeth, rydw i’n gallu edrych ar yr olwyn hon a dadansoddi’r emosiwn hwnnw i gyrraedd ei hemosiwn craidd. Ac nid dim ond ffrwydrad ar hap mohono…mae hi wir yn teimlo hyn. Felly, mae wedi fy helpu i fod yn fwy empathig tuag at fy mhlant, a deall eu hemosiynau a’u hymddygiad. Ac rwy’n credu bod hynny wedi fy helpu i fod yn fam well (Rhiant)
Mae’r dystiolaeth a gynhyrchwyd yn y gwerthusiad hwn yn awgrymu bod cyfuniad o holl elfennau’r cynllun peilot Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl wedi gweithio’n effeithiol i gefnogi teuluoedd a gafodd fwy o gapasiti, sgiliau a gwybodaeth, ac a adeiladodd rwydweithiau cefnogol, a chyfrannodd hyn at berthnasoedd teuluol sefydlog. Er enghraifft, nododd y rhai a oedd yn hwyluso’r rhaglen sut roedd wedi cadw teuluoedd gyda’i gilydd.
A gafodd y plant y buom yn ymwneud â nhw eu hatal rhag dod i ofal? Yn sicr, rhai ohonyn nhw, do. Felly, fe wnaethon ni gadw’r niferoedd yn is nag y byddent wedi bod fel arall o ganlyniad i’r prosiect hwn (Uwch Arweinydd Awdurdod Lleol)
Dyma fy nhri theulu gwreiddiol ers i mi ddechrau… mae fy holl deuluoedd yn dal gyda’i gilydd. Felly… mae’n gweithio (Gofalwyr Maeth Cymorth i Deuluoedd)
Yn bwysig, rhannodd rhieni hefyd eu safbwyntiau ar werth Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl a sut roedd wedi dod â newidiadau cadarnhaol.
Heb Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl, dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi ymdopi â [plentyn]… Gobeithio y bydd yn parhau i deuluoedd sydd ei angen… Rwy’n meddwl ei fod wedi bod yn gefnogaeth wych i mi. Fedra i ddim ei ganmol ddigon… maen nhw wedi fy helpu i a’m hiechyd meddwl… Roeddwn i wir yn isel fy ysbryd, doeddwn i ddim yn gwybod pa ffordd i droi… A nawr, dydw i ddim yn edrych yn ôl, rwy’n parhau i edrych ymlaen. Doedd gen i neb i droi ato, ond fe wnaeth Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl fy helpu drwyddo, ac maen nhw’n dal yno (Rhiant)
Fe wnaeth e fy achub i… ac fe wnaeth e achub y plant hefyd… Byddai wedi bod yn anodd iawn. Maen nhw wedi achub ein bywydau. Does dim dwywaith amdani… Y duaf o ddu y gallwch chi ei ddychmygu, Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl oedd y golau hwnnw… Rydym yn eiriolwyr dros Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl… maen nhw wedi ein cefnogi trwy daith llwyr uffernol… A’n plant, ac mae wedi bod y daith anoddaf rydyn ni erioed wedi bod arni, ond rydyn ni wedi llwyddo… Rydyn ni wedi dod allan ar yr ochr arall… A wyddoch chi, alla i ddim diolch digon i’r gwasanaeth am yr hyn maen nhw wedi’i wneud i mi a fy mhlant (Rhiant)
A dweud y gwir, roeddwn i’n meddwl amdano’n gynharach, pe na bai dim byd fel Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl, efallai y byddai siawns o 50-50 i mi oroesi. Petai dim ond gennyf fi a’r gwasanaethau cymdeithasol heb y person canol i helpu… Dydw i ddim yn gwybod beth maen nhw ei eisiau gen i, ac mae fy lefel gorbyder yn uchel, ac rwy’n flin iawn gyda nhw, a dydw i ddim eisiau eu tawelu mewn unrhyw ffordd heblaw, “Rhowch fy [mhlentyn] yn ôl i mi” … felly a dweud y gwir… gallai fod wedi bod yn dafliad ceiniog o ran a fyddai’n gweithio i mi ai peidio pe na bai gen i Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl, ac felly nid yn unig y mae wedi ei wneud i weithio, ond mae wedi ei wneud i weithio’n llawer gwell (Rhiant)
O ystyried yr ‘argyfwng gofal’ presennol, mae’n bwysig buddsoddi mewn rhaglenni sydd wedi dangos yn glir y gallant gefnogi teuluoedd sy’n profi anawsterau ac atal plant rhag mynd i mewn i’r system ofal. Mae’r dystiolaeth a gynhyrchwyd yn y gwerthusiad hwn yn nodi Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl yn rhaglen werthfawr a all gyflawni’r nodau hyn a gwneud cyfraniad hanfodol at leihau mynediad i ofal a chefnogi teuluoedd i ffynnu.
I gael gwybod mwy am y prosiect ewch i – https://cascadewales.org/research/step-up-step-down/
Gallwch weld Crynodeb Gweithredol yr adroddiad gwerthuso llawn yma
Cyfeiriad – Mannay, D., Roberts, L., Stevenson, S. a Baker, E. 2026. An Evaluation of the Step Up Step Down Pilot Programme in Pembrokeshire: Caerdydd: Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant – CASCADE. Ar gael yn – https://cascadewales.org/research/step-up-step-down/
