Trosolwg o gynnydd cenedlaethol a heriau mewn gofal cymdeithasol gan y Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth.
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg sy’n seiliedig ar dystiolaeth o sut mae gofal cymdeithasol yn perfformio ledled Cymru ar adeg o alw cynyddol, pwysau parhaus a newidiadau mawr. Mae’n tynnu sylw at ymrwymiad, gwytnwch a syniadau newydd y gweithlu gofal cymdeithasol a’i bartneriaid, yn ogystal â phrofiadau’r bobl a’r cymunedau y maen nhw’n eu cefnogi.
