Cynllun diwygio a chyflawni ar gyfer y system cyfiawnder ieuenctid.

Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae system cyfiawnder ieuenctid Cymru a Lloegr wedi gwneud cynnydd sylweddol, gyda llai o blant yn dod i mewn i’r system a llai yn cael eu cadw yn y ddalfa. Fodd bynnag, mae gan y plant sy’n dod i gysylltiad â’r system bellach anghenion mwy cymhleth yn aml, tra nad yw’r systemau a’r trefniadau sydd ar waith wedi dal i fyny â’r amgylchiadau newidiol hyn.

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi’r Papur Gwyn ar Gyfiawnder Ieuenctid, sy’n nodi rhaglen ddiwygio gynhwysfawr i foderneiddio’r system cyfiawnder ieuenctid. Mae’n nodi cyfeiriad clir ar gyfer ymyrraeth gynharach, mwy o gysondeb ar draws y system, a sicrhau mai dim ond pan fo angen y defnyddir y ddalfa.

Darllenwch yr adroddiad