Gweminar:
Brodyr a chwiorydd sy’n magu brodyr a chwiorydd: y gofalwyr anweledig

Cyflwynydd: Dr Lorna Stabler, Prifysgol Caerdydd

Dyddiad: Dydd Llun 5 Hydref
Amser: 13:00 – 14:00
Lleoliad: Ar-lein, Teams

Crynodeb

Pan na all plentyn fyw’n ddiogel gyda’i rieni, gall gofal gan berthynas gadw plant gyda phobl sy’n eu caru, yn hytrach na’u bod yn cael eu maethu neu eu mabwysiadu gan bobl nad ydyn nhw’n eu hadnabod. Bu ymwybyddiaeth gynyddol o ba mor bwysig yw gofal gan berthynas a’r angen am fwy o gydnabyddiaeth a chefnogaeth, yn enwedig yn Lloegr gyda’r Strategaeth Gofal gan Berthynas newydd yn cael ei gweithredu ar draws Awdurdodau Lleol.

Mae pobl yn aml yn tybio bod gofalwyr sy’n berthnasau i gyd yn neiniau a theidiau. Ond gall unrhyw un sy’n gysylltiedig â phlentyn ddod yn ofalwr sy’n berthynas. Bydd y weminar sbotolau hon, sy’n agor #WythnosGofalGanBerthynas2026 yn canolbwyntio ar brofiadau a straeon brodyr a chwiorydd hŷn sy’n dod yn ofalwyr ar gyfer eu brodyr a chwiorydd iau, gan edrych ar beth mae’n ei olygu i fagu eich brodyr a chwiorydd eich hun, lle mae’r bylchau mewn dealltwriaeth a gwasanaethau, a sut mae gofal gan frawd neu chwaer yn cydblethu â gofalwyr ifanc, bod â phrofiad o fod mewn gofal a stereoteipiau ynghylch galluoedd pobl ifanc yn fwy cyffredinol. 

Biography

Mae Dr Lorna Stabler yn Gymrawd Ymchwil yn CASCADE, Prifysgol Caerdydd. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ffyrdd o gadw plant yn ddiogel o fewn eu rhwydweithiau teuluol. Mae hi’n rhedeg rhaglen ymchwil sy’n canolbwyntio ar ofal gan berthynas. Yn ogystal â’i hastudiaethau academaidd, mae’n tynnu ar ei phrofiad o fod wedi bod yn ofalwr maeth i’w brawd iau a’i phrofiad ei hun o fod mewn gofal, i seilio ei gwaith yng ngwirioneddau beunyddiol gofal.