Hannah Price-Jones

Gall plant o gefndiroedd ethnig gwahanol fod â phrofiadau gwahanol iawn o ofal cymdeithasol plant. Mae amrywiadau pwysig rhwng grwpiau ethnig, sy’n codi cwestiynau ynghylch sut y caiff plant a theuluoedd eu cyfeirio at wasanaethau, eu hasesu a’u cefnogi, ac ynghylch rôl diwylliant, tlodi, gwybodaeth broffesiynol a’r ffordd y caiff penderfyniadau eu gwneud.

Bu’r astudiaeth hon yn edrych ar safbwyntiau gweithwyr proffesiynol ym maes amddiffyn plant ar anghydraddoldebau ethnig mewn gofal cymdeithasol plant yn y Deyrnas Unedig, gan ddefnyddio persbectif aml-lefel ar draws ystod eang o rolau amddiffyn plant; a nodwyd ffactorau sy’n cyfrannu at anghydraddoldebau mewn gofal cymdeithasol plant.

Roedd prif ffocws yr astudiaeth yn cynnwys:

  • Profiadau a safbwyntiau gweithwyr proffesiynol ar anghydraddoldebau ethnig.
  • Rhwystrau’n ymwneud â hyfforddiant, ymarfer a gwybodaeth ddiwylliannol.
  • Barn gweithwyr proffesiynol ynglŷn â’r hyn a allai wella ymarfer a chefnogaeth i blant a theuluoedd o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.

Dulliau Ymchwil

Cwblhaodd arolwg ar-lein gan 244 o weithwyr proffesiynol amddiffyn plant ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr preswyl a gweithwyr proffesiynol eraill  ym maes amddiffyn plant. Roedd yr arolwg yn edrych ar brofiadau gweithwyr proffesiynol o anghydraddoldeb ethnig a rhagfarn hiliol, hyfforddiant amrywiaeth diwylliannol, a gwahaniaethau mewn ymyrraeth gofal cymdeithasol rhwng grwpiau ethnig. Roedd yr arolwg yn rhan o astudiaeth ddilyniannol, dulliau cymysg fwy o faint, oedd hefyd yn cynnwys cyfweliadau ansoddol a dadansoddi dogfennau.

Beth ddywedodd y gweithwyr proffesiynol?

Nododd bron i 40% o’r gweithwyr proffesiynol eu bod wedi gweld anghydraddoldebau ethnig, a nododd dros hanner eu bod wedi gweld rhagfarn hiliol yn y system gofal cymdeithasol plant. Nododd gweithwyr proffesiynol sawl ffactor a allai gyfrannu at anghydraddoldebau, gan gynnwys camddealltwriaeth diwylliannol, tlodi a hyfforddiant annigonol. Cytunodd tua 90% fod tlodi’n cyfrannu at gyfraddau atgyfeirio uwch. Yn ogystal, roedd bron i 40% o’r cyfranogwyr yn anghytuno bod yr hyfforddiant amrywiaeth diwylliannol a roddwyd i staff amddiffyn plant yn ddigonol. Fodd bynnag, roedd cefnogaeth gref i hyfforddiant ychwanegol, gyda bron i dri chwarter yn cytuno neu’n cytuno’n gryf y gallai hyfforddiant pellach helpu i leihau anghydraddoldebau.

Roedd profiadau hefyd yn amrywio yn ôl ethnigrwydd ac roedd cyfranogwyr o gefndiroedd ethnig a ymyleiddiwyd yn fwy tebygol o nodi iddyn nhw weld anghydraddoldebau ethnig na chyfranogwyr gwyn. Yn yr un modd, roedd gweithwyr proffesiynol iau yn fwy tebygol o nodi iddyn nhw weld anghydraddoldebau ethnig na gweithwyr proffesiynol hŷn ac roedd gweithwyr proffesiynol â llai o flynyddoedd o brofiad yn fwy tebygol o nodi gweld anghydraddoldebau ethnig na’r rhai â mwy o flynyddoedd o brofiad. Mae’r canfyddiadau hyn yn ddiddorol o safbwynt aml-lefel, gan eu bod yn tynnu sylw at sut y gall profiadau a dealltwriaeth o anghydraddoldeb ethnig amrywio ar draws y gweithlu gofal cymdeithasol plant.

Pam mae hyn yn bwysig?

Mae gweithwyr gofal cymdeithasol plant yn gwneud penderfyniadau a all fod â chanlyniadau sylweddol i blant a theuluoedd. Felly mae deall sut mae ethnigrwydd, diwylliant, tlodi, gwybodaeth broffesiynol ac arferion sefydliadol yn rhyngweithio yn bwysig wrth ystyried anghydraddoldebau yn y system. Mae’r canfyddiadau’n awgrymu bod mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ethnig yn gofyn am fwy na dim ond darparu hyfforddiant amrywiaeth diwylliannol. Mae angen ystyried ansawdd yr hyfforddiant, cyfleoedd i fyfyrio, a sut mae anghydraddoldebau cymdeithasol a strwythurol ehangach yn dylanwadu ar ymarfer proffesiynol.

Bydd ymchwil yn y dyfodol yn bwysig wrth ddod â phrofiadau plant a theuluoedd yn uniongyrchol i’r drafodaeth. Byddai cyfuno safbwyntiau proffesiynol â phrofiadau plant a theuluoedd yn rhoi dealltwriaeth lawnach o anghydraddoldebau ethnig mewn gofal cymdeithasol plant a sut y gellid mynd i’r afael â nhw.

Am fwy o fanylion am yr astudiaeth hon;

Price-Jones, H. 2026. Exploring child protection professional’s perspectives on ethnic inequalities in the United Kingdom. Journal of Childhood, Education & Society, 7 (2) https://www.j-ces.com/index.php/jces/article/view/839

Price-Jones, H. 2026. Exploring Child Protection Professionals’ Perspectives on Ethnic Inequalities in the United Kingdom. Traethawd PhD. Prifysgol Abertawe. https://cronfa.swan.ac.uk/Record/cronfa72280