Gweminar:
Dylunio Roboteg Gynorthwyol Gymdeithasol ar y cyd i gefnogi pobl yn hwyrach mewn bywyd

Cyflwynydd: Athro Carlos Cifuentes (UWE Bryste)

Dyddiad: Dydd Mawrth 3 Tachwedd
Amser: 13:00 – 14:00
Lleoliad: Ar-lein, Teams

Abstract

Mae gofal cymdeithasol yn wynebu heriau cynyddol sy’n gysylltiedig â phoblogaeth sy’n heneiddio, gan gynnwys galw cynyddol am gymorth, llwyth gwaith gofalwyr cynyddol, a’r angen i ddiogelu annibyniaeth, lles ac urddas oedolion hŷn. Mae robotiaid cynorthwyo cymdeithasol (SAR) yn cynnig cyfleoedd i ategu gofal presennol drwy gefnogi Gweithgareddau Bywyd Bob Dydd, cynorthwyo ymyriadau therapiwtig, a galluogi gofal mwy personol ac urddasol.

Gwnaethon ni ddylunio dwy dechnoleg robotig gyflenwol ar y cyd â rhanddeiliaid, gan gynnwys oedolion hŷn, gweithwyr gofal proffesiynol, ac aelodau o’r teulu, i adnabod anghenion, diffinio gofynion dylunio, a mireinio ymarferoldeb systemau drwy drafodaethau a gweithgareddau seiliedig ar brototeipiau i gefnogi oedolion hŷn yn hwyrach mewn bywyd. Ffrâm gerdded glyfar yw’r cyntaf sy’n cyfuno cymorth symudedd â swyddogaethau rhyngweithiol a diogelwch i gefnogi gweithgareddau bywyd bob dydd. System hel atgofion â chymorth robot sy’n cael ei hysgogi gan ddeallusrwydd artiffisial ac sy’n defnyddio gwahanol fathau o ffotograffau i gefnogi’r broses o gofio, sgwrsio a rhyngweithio cymdeithasol. Wedi hynny, gwerthuswyd y ddwy dechnoleg mewn amgylcheddau gofal a chartrefi go iawn i ganfod eu defnyddioldeb a’u rhyngweithiadau.

Gyda’i gilydd, mae’r prosiectau hyn yn dangos sut y gall y robotiaid hyn a ddyluniwyd ar y cyd gefnogi gofalwyr yn hytrach na’u disodli wrth fynd i’r afael ag agweddau corfforol a gwybyddol ar ofal. Bydd gwaith yn y dyfodol yn ymdrin â rhagor o bersonoli, rhyngweithio addasol, integreiddio i ymarfer gofal, a gwerthuso defnyddioldeb cynaliadwy, derbyniad, a gwerth ymarferol yn hydredol.

Biography

Mae Carlos Cifuentes yn Athro Roboteg sy’n Canolbwyntio ar Bobl a Deallusrwydd Artiffisial yn Labordy Roboteg Bryste (UWE Bryste) ac ef yw Dirprwy Gyfarwyddwr yr Hyb VIVO £13.4 miliwn a ariennir gan y DU. Gyda thros 15 mlynedd o brofiad, mae wedi arwain ymchwil amlddisgyblaethol ym meysydd adsefydlu, roboteg gynorthwyol, ehangu galluoedd dynol, a deallusrwydd artiffisial at ddibenion gofal iechyd. Mae ei waith yn canolbwyntio ar dechnolegau sy’n seiliedig ar bobl ac sy’n gwella iechyd, lles ac ansawdd bywyd, gan fynd i’r afael â heriau gan gynnwys cyflyrau cardiofasgwlaidd a niwrolegol, dementia, heneiddio’n iach, anhwylderau cyhyrysgerbydol a niwroamrywiaeth. Mae wedi ysgrifennu dros 200 o gyhoeddiadau gwyddonol ac mae’n Olygydd Cyswllt ar gyfer sawl cyfnodolyn a chynhadledd roboteg flaenllaw, gan gynnwys Cylchgrawn IEEE Robotics and Automation, ICRA, ac IROS.