Sylwer: Cynhelir y digwyddiad hwn gan sefydliad allanol ac fe’i rhennir i dynnu sylw at gyfleoedd a allai fod o ddiddordeb i’n cymuned. Nid yw wedi’i drefnu na’i gymeradwyo gan ExChange, a dylid gwneud pob archeb, taliad ac ymholiad yn uniongyrchol gyda darparwr y digwyddiad. Nid yw ExChange yn gyfrifol am y cynnwys, y cyflwyniad nac unrhyw newidiadau sy’n ymwneud â’r digwyddiad hwn.
Cefnogi Plant sydd a Phrofiad o Ofal – O Ymrwymiad i Weithredu: Creu Cyfleoedd sy’n Gwneud Gwahaniaeth Gwirioneddol
Mae’r sesiwn hyfforddi hon wedi’i chynllunio i helpu sefydliadau i gael dealltwriaeth glir ac ymarferol o beth mae rhianta corfforaethol yn ei olygu, yn enwedig mewn perthynas â’r egwyddorion a’r ymrwymiadau sydd wedi’u nodi yn Siarter Rhianta Corfforaethol Cymru.
