Yn dilyn yr Uwchgynhadledd Ymddygiad Genedlaethol ym mis Mai, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Pecyn Cymorth Ymddygiad newydd i gynnig cefnogaeth ymarferol i leoliadau addysg yng Nghymru. Mae’r pecyn cymorth wedi’i gynllunio i gynorthwyo ymarferwyr i ddatblygu a chynnal ymddygiadau dysgu cadarnhaol, gan ddarparu mynediad at ganllawiau ac adnoddau perthnasol mewn un lle. Bydd y pecyn cymorth yn cael ei adolygu’n rheolaidd, yn seiliedig ar adborth ymarferwyr.
Cyrchu’r pecyn cymorth