20 Awst 2025

Mae’n bleser gennyn ni gyhoeddi lansiad My Care Journey, sef cyhoeddiad wedi’i drefnu a’i greu’n gyfan gwbl gan bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, gan roi cipolwg unigryw i’r darllenydd ar fywyd yn y system ofal.
Ein grŵp o ymchwilwyr cymheiriaid “Joining up Joining in” feddyliodd am y syniad, ei ysgrifennu a’i ddylunio. Dyma ganlyniad dros ddwy flynedd o waith gan 12 o bobl arbennig o gefndiroedd gofal amrywiol.
Mae’r grŵp Joining Up Joining In yn cynnwys ymchwilwyr cymheiriaid sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Cawson nhw gymorth ariannol gan Ymddiriedaeth Blagrave a hyfforddiant gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith. Dros y ddwy flynedd, mae’r grŵp wedi cyhoeddi nifer o adroddiadau ymchwil, wedi cynhyrchu a chyfarwyddo ffilm, ac wedi helpu i newid polisïau mewn tri chyngor lleol – sydd bellach yn cydnabod y profiad o fod mewn gofal fel nodwedd warchodedig. Ym mis Rhagfyr ymunon ni â Terry Galloway ac ymweld â’r senedd a 10 Stryd Downing i gyflwyno deiseb yn galw am gael gwared ar y rheol prawf o gysylltiad lleol sydd ynghlwm â Gwasanaethau Tai.
Mae’r llyfr yn dangos bod profiadau pawb yn wahanol, bod gan y system fanteision a diffygion, a bod pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn parhau i ymdrechu a gobeithio am system well yn y dyfodol.
“Dyma straeon ysbrydoledig ac emosiynol gan 11 o bobl ifanc sydd â phrofiad bywyd o elfennau cadarnhaol ac elfennau negyddol y system ofal gyfredol. Mae gwrando ar y rhai sydd â phrofiad uniongyrchol yn fan cychwyn ar gyfer newid pethau.”
Josh MacAlister OBE, AS Whitehaven a Workington ac ymgyrchydd dros ofal.
Cafodd y cyhoeddiad hwn ei greu ar gyfer gweithwyr proffesiynol a phobl sy’n gwneud penderfyniadau. Mae’n cynnwys gwahanol fathau o wybodaeth i’r darllenwr, gan gynnwys straeon gan bobl â phrofiadau uniongyrchol, ffeithiau ymchwil a cherdd wedi’i hysgrifennu ar y cyd gan y bardd Ty’rone Haughton o Literati Arts, sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
Mae’r cyhoeddiad wedi’i ariannu’n hael gan Sefydliad Esmee Fairbairn, sy’n golygu bod ein pobl ifanc wedi cael cyfle i gydweithio a thrafod â gweithwyr proffesiynol cyflogedig ym meysydd dylunio graffeg, ffotograffiaeth a marchnata. Mae hyn wedi helpu i roi eu syniadau uchelgeisiol ar waith a’u wedi galluogi i ddysgu sgiliau gwerthfawr ar gyfer y dyfodol.

“Mae’r straeon hyn o My Care Journey yn rhannu hanesion o’r gorffennol, yn ogystal â gobeithion ar gyfer y dyfodol. Maen nhw’n haeddu cael eu darllen, eu clywed a’u hystyried gan bob un ohonon ni.”
Deborah Taylor, Cynghorydd Sir a chyn arweinydd dros dro Cyngor Sir Caerlŷr ac aelod arweiniol dros blant a theuluoedd
Mae nifer cyfyngedig o gopïau caled ar gael drwy gais ac mae modd ei lawrlwytho yma
Hoffen ni ddiolch i:
Grŵp Joining Up Joining In
Krishna Kothari a Paul Whalley – Tîm Gadael Gofal yn Leicestershire Cares
Y Sefydliad Dysgu a Gwaith
Ymddiriedolaeth Blagrave
Sefydliad Esme Fairbairn
Richard Dawson, Foil Design
Stuart Hollis Photography
Simon Gribbon – Sandstar Communications
Chartwell Press LTD
Ty’Rone Haughton – Literati Arts
Carchar Ei Fawrhydi Caerlŷr – am hwyluso ein hymweliadau
Cyhoeddwyd hwn yn gyntaf ar https://www.leicestershirecares.co.uk/about-charity/news-events-/my-care-journey-publication-finally-here/