Digwyddiadau

Dysgwch fwy am ein digwyddiadau a gweminarau sydd ar ddod, a sut y gallwch chi gofrestru, ar y dudalen hon. Am restr o ddigwyddiadau’r gorffennol, ewch i’n harchif.

" alt="thumbnail" />

Creu a Rheoli Rhaglen Eiriolaeth Rhieni

Mae rhieni sydd â phrofiad o’r system lles plant yn gweithio fel eiriolwyr i helpu rhieni eraill mewn perthynas â lles plant. Mae rhieni yn ymgyrchwyr hefyd i newid polisïau, rhaglenni a systemau lles plant.  Mae'r cyflwyniad hwn yn canolbwyntio ar sut i greu a rheoli rhaglen eiriolaeth rhieni sy'n cynorthwyo rhieni, yn helpu teuluoedd ac yn gwella systemau lles plant. Mae'r rhaglenni hyn yn cael eu cynnal o fewn asiantaethau llywodraethol ac fel sefydliadau annibynnol. Mae'r cyflwyniad yn seiliedig ar y Canllaw Ymarfer: Creu a Rheoli Rhaglen Eiriolaeth Rhieni. Mae wedi’i baratoi i helpu rhieni a'u cynghreiriaid sydd wedi creu Rhaglen Eiriolaeth Rhieni, neu sydd yn y broses o wneud hynny. Datblygwyd y Canllaw dan nawdd Canolfan CASCADE Prifysgol Caerdydd. David Tobis a Clive Diaz sydd wedi’i ysgrifennu, a chafwyd mewnbwn gan ddau grŵp cynghori rhieni. Mae’r pynciau dan sylw’n cynnwys: Beth yw Eiriolaeth Rhieni a Pham mae'n Bwysig; Rôl Arweinyddiaeth Rhieni; Paratoi Asiantaeth; Yr Hyn y mae Rhieni Am i Eiriolwyr Cymheiriaid ei Wybod a'i Wneud; Y Gefnogaeth a'r Hyfforddiant sydd eu Hangen ar Eiriolwyr Rhieni; Hyfforddi Staff y bydd Angen Iddynt Weithio gydag Eiriolwyr Rhieni; a Datblygu Strategaeth i Hyrwyddo Eiriolaeth Rhieni. Mae'r cyflwyniad yn cynnwys llawer o adnoddau sydd ar gael yn rhad ac am ddim ar-lein. Bydd pawb sy'n mynd i’r cyflwyniad yn cael copi o'r Canllaw Ymarfer yn rhad ac am ddim.

location-iconOnline, Teams

time-icon17:00 - 12/11/2025

Mae ExChange Wales yn dod ag ymchwilwyr blaenllaw, ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaeth ynghyd i rannu arbenigedd, tystiolaeth ymchwil a phrofiadau o ofal.

Trwy ein cynadleddau, gweithdai, darlithoedd a seminarau, mae ExChange yn darparu hyfforddiant o ansawdd uchel am ddim i gefnogi datblygiad parhaus gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol ledled Cymru. Wrth ddenu siaradwyr cenedlaethol blaenllaw, rydym yn dysgu ac yn cynghori ymchwil sy’n effeithio polisi ac ymarfer. Mae ein digwyddiadau a’n hadnoddau yn cyfoethogi sgiliau wrth flaenori profiadau llaw gyntaf pobl â phrofiad o ofal.

Mae ystod o ffyrdd y gallwch chi weithio gydag ExChange. Os ydych chi am gynnal gweithdy ExChange, gweminar, podlediad neu flog, cysylltwch â ni.

Cymerwch olwg ar ein cynhadledd ddiweddaraf.

Mae cynadleddau ExChange Cymru yn dod ag ymchwilwyr blaenllaw ynghyd ag ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaethau i rannu arbenigedd, tystiolaeth ymchwil a phrofiadau gofal.
Cael Eich Gweld, Eich Clywed, a’ch Gwerthfawrogi

Cael Eich Gweld, Eich Clywed, a’ch Gwerthfawrogi

Medi 12, 2024

Cynhadledd Anableddau Dysgu ExChange Wales HYDREF 2024 Nod y gyfres hon o gynadleddau yw canolbwyntio ar anabledd dysgu, gan dynnu sylw at yr ymchwil a’r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud yn y maes hwn. Cafodd y teitl ‘Cael Eich…