Power to Change: Ffilm fyfyriol newydd yn dathlu tair blynedd o roi’r grym i bobl ifanc yn Swydd Gaerlŷr

22 Mai 2025

Mae ffilm fyfyriol newydd gan Leicestershire Cares yn taflu goleuni ar leisiau’r bobl ifanc y mae eu bywydau wedi newid o ganlyniad i brosiect arloesol Power to Change.

Cafodd Power to Change ei lansio tair blynedd yn ôl gyda’r nod o roi’r grym i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, pobl ifanc ar y stryd, pobl ifanc a oedd yn lletchwith wrth gymdeithasu yn dilyn cyfnodau clo pandemig COVID-19 a’r rhai sy’n wynebu rhwystrau yng Nghaerlŷr a Swydd Caerlŷr. Drwy fentora, cynnal gweithdai creadigol, datblygu sgiliau, ac ymgysylltu â’r gymuned, mae’r prosiect hwn wedi helpu dwsinau o bobl ifanc i ddod o hyd i’w llais, magu hyder a llywio eu dyfodol.

Cafodd y ffilm ei chynhyrchu ar y cyd â’r rhai a gymerodd ran, Doc Media Centre ac Aaron, sef gweithiwr ieuenctid Leicestershire Cares ei hun, ac mae’n adrodd hanes eu profiadau. Mae’n cynnwys myfyrdodau gonest a phersonol ac yn dangos yr heriau y mae llawer o bobl ifanc yn eu hwynebu wrth adael gofal neu ymdopi ag amgylchiadau bywyd anodd. Ond mae hefyd yn adrodd stori am wydnwch, undod a thrawsnewid.

Image Not Found

“Mae’r prosiect hwn wedi newid sut ydw i’n gweld fy hun,” dywedodd un o’r rhai a gymerodd ran yn y ffilm.  “Rwy wedi dysgu bod fy stori yn bwysig – ac rwy’n gallu helpu pobl eraill drwy sôn am fy mhrofiadau.”

Dros gyfnod o dair blynedd, mae prosiect Power to Change wedi:

  • Rhoi cymorth i dros 500 o bobl ifanc drwy weithdai wedi’u teilwra a mynegiant creadigol.
  • Creu cyfleoedd i weithio, gwirfoddoli ac arwain ar gyfer y bobl ifanc a gymerodd ran.
  • Datblygu partneriaethau cryf gyda sefydliadau lleol, busnesau ac awdurdodau lleol.
  • Hwyluso ymgyrchoedd a phodlediadau dan arweiniad pobl ifanc sy’n mynd i’r afael â stigma, tai, iechyd meddwl, a mwy.

Mae’r ffilm nid yn unig yn dathlu cynnydd ond hefyd yn alwad i weithredu. Mae Leicestershire Cares yn gobeithio bydd y ffilm yn sicrhau buddsoddiad parhaus mewn atebion cymunedol dan arweiniad pobl ifanc sy’n gwneud gwahaniaeth amlwg.

“Hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am ariannu’r prosiect hwn ac am eu cefnogaeth barhaus”

Aaron Todd, Swyddog Datblygu Cymunedol ac Ieuenctid“Hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am ariannu’r prosiect hwn ac am eu cefnogaeth barhaus”

Aaron Todd, Swyddog Datblygu Cymunedol ac Ieuenctid

Image Not Found

Dilynwch yr hanes: Instagram @Leicscares #PowerToChangeproject #LleisiauPoblIfanc #LeicestershireCares

Cafodd y neges flog hon ei chyhoeddi gyntaf gan Leicestershire Cares