Fforwm Arfer Da at ddefnydd cartrefi preswyl i blant ag anghenion cymhleth
Mae’r Fforwm Arfer Da yn canolbwyntio ar yr agweddau ymarferol ar ddatblygu cartrefi preswyl i blant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth ledled Cymru.
Beth yw ystyr plant ag anghenion cymhleth?
Diffinnir ‘anghenion cymhleth’ fel anghenion emosiynol, ymddygiadol ac iechyd meddwl difrifol sydd o bosibl yn bodoli ochr yn ochr ag anghenion corfforol dwys.
Efallai na fydd gan blant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth ddiagnosis iechyd meddwl ond yn cael anhawster wrth reoli eu hemosiynau, a all arwain at ymddygiadau gofidus, aflonyddgar, gwrthgymdeithasol ac anghydweithredol, a straen sylweddol a gorbryder.
Gall hyn gynnwys plant a phobl ifanc sydd heb ag anabledd dysgu sy’n aros am ddiagnosis iechyd meddwl neu ddiagnosis niwrowahanol.
Diffiniad o gartrefi preswyl i blant ag anghenion cymhleth
Yn wahanol i gartrefi plant traddodiadol, mae’r rhain yn ddarpariaeth canolraddol arbenigol sy’n aml yn cynnig cymorth therapiwtig ac fel arfer ar gyfer arosiadau tymor byr.
Y pwrpas yw cefnogi’r gwaith o reoleiddio ymddygiad ac atal gwaethygu i gartref diogel a hwyluso’r proses o ddad-ddwysáu o gartref diogel neu ddarpariaeth cleifion mewnol iechyd meddwl haen 4.
Yn olaf, ei nod yw cadw plant yn nes adref drwy lenwi bylchau mewn darpariaeth leol er mwyn osgoi gorfod lleoli plant y tu allan i’r sir neu’r tu allan i Gymru.
Amcanion y Fforwm
Nod y fforwm hwn yw dwyn ynghyd ymarferwyr i wneud y canlynol:
- Cyfrannu at becyn cymorth arfer da i ddatblygu darpariaeth breswyl i blant ag anghenion cymhleth.
- Hyrwyddo trafodaeth gynhyrchiol ac annog atebion cydweithredol mewn agweddau y mae aelodau’n eu cael yn heriol, er enghraifft sut i gyrraedd cytundeb partneriaeth.
- Tynnu sylw at lwyddiannau, rhannu gwersi a ddysgwyd/peryglon mewn prosiectau a sut i oresgyn heriau.
- Deall y ffactorau sy’n helpu arfer da i ffynnu.
- Canfod rhwystrau sy’n atal y broses o fabwysiadu dulliau arloesol o weithio a chefnogaeth, yn gynnwys integreiddio gwasanaeth lleol, er enghraifft gydag addysg ac iechyd.
Os hoffech chi gael eich ychwanegu at y rhestr ddosbarthu, e-bostiwch ana.laing@llyw.cymru.
Pecyn Cymorth Arfer Da
Er mwyn sicrhau bod rôl y fforwm o werth gwirioneddol i aelodau, un allbwn o’r fforwm bydd datblygu pecyn cymorth arfer da a fydd yn cynnwys yr wybodaeth wedi’i chasglu, wedi’i chynhyrchu ac wedi’i hadolygu gan aelodau megis straeon llwyddiant, gwersi allweddol wedi’u dysgu ac atebion manwl i bob her benodol. Bydd y pecyn cymorth ar gael i’r holl aelodau ac, yn ehangach, i dimau Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, Gwasanaethau Plant yr Awdurdod Lleol yng Nghymru a phartneriaid allweddol wrth gynllunio, dylunio a datblygu darpariaeth breswyl i blant ag anghenion cymhleth.
Cyfarfodydd y Fforwm
Cyflwyniadau a nodiadau cyfarfodydd
Enghreifftiau o Ddogfennau Gweithredol
Ar gyfer pob cartref a ddangosir drwy’r fforwm, dylai fod gennym ni’r canlynol:
Datganiad o Fwriad
Cytundebau partneriaeth
Protocolau Penodol – Rhannu Gwybodaeth, Paru, Asesu Risg
Er enghraifft, ar gyfer Bwthyn y Ddôl byddai angen i ni ddechrau gyda Phrotocol Rhannu Gwybodaeth, cytundeb teirochrog, datganiad o fwriad.
Enghreifftiau o Ddyluniadau
Cynllun Gorllewin Cymru
Awgrymwyd mewn cyfarfod ein bod yn gofyn i aelodau roi enghreifftiau o osodiadau a ffitiadau a’u manteision.
