Cwblhaodd 925 o ymarferwyr yr arolwg, gan gynnwys arweinwyr, athrawon a gweithwyr cymorth dysgu. Casglwyd ymatebion ar bynciau megis gwybodaeth am y Cwricwlwm i Gymru ac ymrwymiad iddo; hyder a gallu; dealltwriaeth a rennir o Cwricwlwm i Gymru; dylunio cwricwlwm; arweinyddiaeth; ymarfer addysgol; cydweithio; a dysgu a chymorth proffesiynol.
