Mae Plant yng Nghymru, wedi ymrwymo i hyrwyddo hawliau babanod a phlant ifanc iawn, yn unol â’n gweledigaeth:

“Adeiladu Cymru lle mae holl hawliau babanod, plant a phobl ifanc yn cael eu cyflawni,’’

Er bod hawliau babanod a phlant ifanc o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn aml yn canolbwyntio ar ddiogelu a darparu, mae’r un mor bwysig i gynnal eu hawl i gymryd rhan.

Mae Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn nodi:

‘’Mae gan bob plentyn yr hawl i fynegi eu barn, eu teimladau a’u dymuniadau ar bob mater sy’n effeithio arnyn nhw a rhaid i’w barn gael ei hystyried a’i chymryd o ddifrif.

Mae babanod yn cael eu geni’n barod i gyfathrebu. Mae ganddyn nhw eu meddwl eu hunain, eu hanghenion unigryw, a’r hawl i gael gwrandawiad ac ymateb, ymhell cyn iddyn nhw allu defnyddio geiriau.

Mae gan fabanod a phlant ifanc lawer o ffyrdd di-eiriau o fynegi eu hunain. Gall hyn fod drwy synau, ond hefyd drwy’r corff: iaith y corff, gan gynnwys estyn neu nodio, neu fynegiadau’r wyneb er enghraifft gwenu.

Fodd bynnag, mae llawer o adnoddau cyfranogi wedi’u cynllunio i blant sy’n defnyddio iaith lafar, a all eithrio plant iau a’r rhai ag anghenion ychwanegol yn anfwriadol. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae Plant yng Nghymru wedi datblygu adnoddau i helpu babanod a phlant ifanc i gael llais ac i gefnogi gweithlu’r Blynyddoedd Cynnar i ddod yn eiriolwyr hyderus dros eu hawliau.

Gallwch chi weld ein fideos a’n hadnoddau y gellir eu hargraffu drwy fynd i: Plant yng Nghymru | Adnoddau Blynyddoedd Cynnar

Adduned i Fabanod yng Nghymru

Ym mis Mai, fe lansiwyd Plant yng Nghymru | Adduned i Fabanod yng Nghymru — cam mawr ymlaen i gydnabod ac ymateb i hawliau ac anghenion unigryw babanod.

Mae’r adduned yn galw ar bob unigolyn, gweithiwr proffesiynol a sefydliad sy’n ymwneud â bywydau babanod i ymrwymo i gydnabod gwahanol anghenion, profiadau a safbwyntiau penodol babanod ym mhob penderfyniad sy’n effeithio arnyn nhw. 

Datblygwyd yr adduned hon i dynnu sylw at safbwynt y baban, ac mae’n gyfle i bawb sy’n gofalu am fabanod ac yn gweithio gyda nhw a’u teuluoedd gydnabod a gwerthfawrogi llais ac anghenion babanod ac ymateb iddyn nhw. 

Mae’r Adduned Babanod, a ddatblygwyd ar y cyd â Phrifysgol Abertawe, wedi’i seilio ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac mae’n canolbwyntio ar 1000 Diwrnod Cyntaf bywyd plentyn. Fe’i cyd-gynhyrchwyd â chyfraniadau gan rieni, gofalwyr, eu babanod, a gweithwyr proffesiynol. O dan arweiniad rhwydwaith CREYN roedd dau gylch ymgynghori yn rhan o’r broses ddatblygu, er mwyn sicrhau bod yr Adduned wir yn adlewyrchu’r ystod eang o brofiadau academaidd, proffesiynol, a bywyd.

Mae’r Adduned yn annog oedolion i wrando ar fabanod wrth ymwneud â nhw o ddydd i ddydd, mewn lleoliadau gofal, ac wrth wneud penderfyniadau ehangach ynghylch gwasanaeth a pholisi. Mae hefyd yn tynnu sylw at rôl hanfodol cymunedau yn cefnogi teuluoedd, a phwysigrwydd helpu oedolion i fodloni anghenion babanod.

Mae’r Adduned yn fwy na geiriau – mae’n ymrwymiad i roi’r dechrau gorau posibl i bob baban yng Nghymru.

Pan fydd babanod yn ffynnu, rydyn ni i gyd yn ffynnu. Gadewch i ni roi babanod wrth wraidd Cymru .