Ffilm newydd i helpu pobl ifanc i ‘newid y sgript’
Cafodd y ffilm ‘Change The Script’ ei dangos am y tro cyntaf yng nghynhadledd Power To Change yn ddiweddar ac mae wedi’i chynhyrchu gan artist amlgyfrwng o Ddwyrain Canolbarth Lloegr, Casey Francis, trwy ei sefydliad celfyddydol Mad Truth. Yn ôl Casey, mae Change The Script “yn tynnu sylw at lais a safbwyntiau pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.”
Cafodd y ffilm ei ariannu gan Loteri Côd Post y Bobl a chafodd ei chomisiynu gan The Mighty Creatives, elusen arobryn sy’n cynnig gwasanaethau ieuenctid creadigol i’r bobl ifanc sydd wedi’u tangynrychioli fwyaf yn y gymdeithas.
Wrth siarad am y ffilm yn y dangosiad cyntaf, dywedodd Casey: “Mae’r Mighty Creatives wedi bod yn gefnogwyr anhygoel i’m gwaith ac roeddwn i wrth fy modd bod fy nhendr wedi cael ei dderbyn, yn enwedig gan fod rhai o’r bobl ifanc sy’n gweithio gyda Leicestershire Cares wedi cael gweld y tendrau felly roedd buddsoddiad emosiynol uniongyrchol yn y ffilm eisoes.
“Mae pwnc y ffilm yn atseinio’n emosiynol i mi – mae fy mrawd yn ddifrifol awtistig felly mae wedi bod â chysylltiad agos â’r system drwy gydol ei oes. Mae’n gwybod sut beth yw cael eich trin yn annheg a chael eich gwneud i deimlo’n annheilwng. Mae’n hawdd dweud bod un maint yn addas i bawb ac weithiau rydych chi’n teimlo eich bod chi mond yn rhif ar sgrin neu ar bapur.
“Dyna pam ei bod hi’n hanfodol canolbwyntio ar y straeon dynol y tu ôl i hyn ac mae fy swydd i yn wneuthurwr ffilmiau yn tynnu sylw at y rhain.
“Gan weithio gyda’r grŵp Joining Up Joining In yn Leicestershire Cares, fe ddechreuon ni gynnal gweithdy o syniadau ar gyfer y ffilm ac rwy’n mawr obeithio y byddwch chi’n gweld hiwmor, egni ac angerdd y grŵp yn dod drwodd yn y gwaith terfynol.
“Pwrpas y prosiect oedd addysgu, tynnu sylw at a chreu ymdeimlad o empathi a dealltwriaeth. Yr effaith rwy’n gobeithio y bydd gan y ffilm yw annog twf a newid.”
Roedd adborth gan bobl ifanc Joining Up Joining In fel a ganlyn:
- ‘Roedden nhw’n gwerthfawrogi cael pob llais wedi’i glywed. Pan roedd pawb yn gallu cymryd rhan. Rhoi cyfleoedd i holl aelodau’r grŵp gael cyfrannu’
- ‘Cael ymagwedd gyfeillgar a hyderus. Er enghraifft, mae defnyddio’r sesiynau torri’r garw ar ddechrau’r sesiynau yn helpu i greu man lle mae unigolion yn teimlo’n gyfforddus i gyfrannu’
- ‘Roedd y gwneuthurwr ffilmiau hefyd yn angerddol am y pwnc, a oedd yn beth cadarnhaol, ac fe anogodd y grŵp i drafod y themâu’n agored’
- ‘Wedi mwynhau gweithio gyda gwneuthurwr ffilmiau proffesiynol ifanc’
“Mae Casey a’r grŵp o bobl ifanc wedi cydweithio i gynhyrchu darn o waith pwerus, diddorol ac ysbrydoledig. Bydd naratif y ffilm yn cyffwrdd â’ch calon a’i neges ganolog drawiadol yn pwysleisio pwysigrwydd cefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.”
Kieran Breen, Prif Swyddog Gweithredol Leicestershire Cares
Cyhoeddwyd y darn hwn yn wreiddiol yn https://www.leicestershirecares.co.uk/about-charity/news-events-/new-film-to-help-young-people-to-change-the-script/ ac mae wedi’i ailargraffu yma gyda chaniatâd Leicestershire Cares.
