Astudiaeth o iechyd a lles oedolion a gafodd eu magu mewn gofal maeth neu ofal preswyl
Mae ymchwil wedi dangos bod oedolion sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn wynebu risg uwch o ganlyniadau iechyd negyddol o’u cymharu â’r boblogaeth gyffredinol, gan gynnwys cyfraddau uwch o broblemau iechyd corfforol a meddyliol. Mae’r materion hyn yn gysylltiedig â phrofiadau cyn ac yn ystod gofal, a diffyg cymorth yn ystod ac ar ôl eu profiad o fod mewn gofal.
Tra bod ymchwil ar waith i archwilio sut i wella iechyd a lles pobl iau sy’n gadael gofal, nid oes llawer o ddealltwriaeth o’r blaenoriaethau o ran iechyd a lles pobl hŷn sy’n gadael gofal yn Lloegr. Er hynny, mae ymchwil a gynhaliwyd yn Awstralia yn awgrymu bod gan oedolion hŷn sydd â phrofiad o fod mewn gofal anghenion iechyd unigryw, ac mae llawer o’r rhain yn ymwneud â materion sy’n deillio o’u profiad o fod mewn gofal. Nod yr astudiaeth hon yw deall pryderon iechyd a lles oedolion hŷn sydd â phrofiad o fod mewn gofal, gan gynnwys trin a thrafod y mathau o gymorth y bydden nhw’n hoffi ei gael gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Sut i gymryd rhan:
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Rhydychen yn cynnal grwpiau ffocws i ddeall pryderon iechyd a lles oedolion hŷn sydd â phrofiad o fod mewn gofal, gan gynnwys trin a thrafod y mathau o gymorth y bydden nhw’n hoffi ei gael gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Pwy sy’n gallu cymryd rhan?
Dylai pawb yn y grŵp ffocws fod:
• â phrofiad o fod mewn gofal, yn Lloegr, o dan 18 oed
• dros 50 oed
• yn byw yn Lloegr ar hyn o bryd
Pwy sy’n cynnal y prosiect?
Ymchwilwyr yn Adran Iechyd y Boblogaeth Nuffield ym Mhrifysgol Rhydychen sy’n cynnal y prosiect hwn. Dan arweiniad Dr. Jonathan Taylor, ynghyd â Dr. Michele Peters, Dr. Anna Scott a Dr. Rosie Canning, ymchwilydd annibynnol sydd â phrofiad o gael ei magu mewn gofal. Os hoffech chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Jono ar Jonathan.Taylor@ndph.ox.ac.uk neu ffoniwch 01865 617912 neu llenwch y ffurflen yn y ddolen hon – https://oxfordxpsy.az1.qualtrics.com/jfe/form/SV_2fRjjGYnJVdlQkm