Magu Plant Bob Dydd gan Rieni sydd â Phrofiad o fod mewn Gofal – cymerwch ran yn ein harolwg

“Nhw yw’r peth mwyaf rydw i wedi’i gyflawni hyd yn hyn, ac maen nhw’n golygu’r byd i fi” (Tom.)

Nod ein hastudiaeth yw deall profiadau bob dydd rhieni yn y DU sydd â chefndir o fod mewn gofal er mwyn tynnu sylw at arferion cadarnhaol o ran magu plant a dathlu cyflawniadau magu plant. 

Nod yr ymchwil yw cofnodi profiadau nad ydyn nhw’n aml yn cael eu clywed a rhannu straeon rhieni â phrofiad o fod mewn gofal sy’n ymfalchïo yn y plant maen nhw’n eu magu. Drwy rannu’r straeon grymus hyn, rydyn ni’n gobeithio herio rhywfaint o’r stigma y mae’r sawl sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn ei wynebu a chreu naratif mwy cytbwys i blant sydd mewn gofal a’r sawl sy’n gadael gofal.

Yr hyn rydyn ni wedi’i ddysgu hyd yma

Yn ein hastudiaeth, hyd yn hyn, rydyn ni wedi cyfweld â 25 mam a 9 tad, rhwng 23 a 60 oed, sydd â phlant rhwng 6 mis a 31 oed. Mae rhieni wedi sôn am y cariad aruthrol maen nhw’n ei deimlo tuag at eu plant. Fodd bynnag, mae rhai rhieni wedi rhannu y gall eu profiad o fod mewn gofal ddod â phwysau ychwanegol.

Soniodd y rhieni am yr anawsterau ymarferol o gydbwyso gofal plant â’u hangen eu hunain i gymryd seibiant heb gefnogaeth y teulu. Soniodd rhieni, yn enwedig mamau, eu bod yn teimlo pwysau i fagu plant mewn ffordd ‘berffaith’.

“Rwy eisiau bod y rhiant gorau y galla i fod.” (Tina)

Mae angen eich llais chi arnom ni ar gyfer y cam nesaf

Nawr, mae angen eich help arnon ni i weld a yw’r canfyddiadau allweddol hyn yn gyffredin ymysg pobl eraill. Rydyn ni wedi cynllunio arolwg byr i ailymweld â’r themâu a ddaeth i’r amlwg o’n cyfweliadau.

Pwy ddylai gymryd rhan?

Mae’r arolwg ar agor i bob rhiant yn y DU sydd â chefndir o fod mewn gofal ac sy’n dymuno rhannu eu llwyddiannau a’u profiadau o ran magu plant.

Sut i gymryd rhan

Os hoffech chi gymryd rhan yn yr astudiaeth, bydd y ddolen neu’r côd QR yn mynd â chi i’r arolwg. I gael gwybod mwy am yr astudiaeth, cymerwch olwg ar ein gwefan astudio.