Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae gwaith cymdeithasol gyda phlant a theuluoedd wedi datblygu i ymwneud fwyfwy ag amddiffyn plant. Yn aml, mae hyn yn anodd iawn i rieni. Mae llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd ymddiried mewn gweithwyr cymdeithasol amddiffyn plant ac yn ofni y byddan nhw’n ceisio eu gwahanu o’u plant. Yn aml, mae gwir bwrpas gwahanol brosesau yn aneglur i’r sawl sydd ddim yn gweithio yn y system ac mae’r defnydd o iaith dechnegol a chyfreithiol yn ei gwneud nhw’n anodd i’w deall. Am y rhesymau hyn, mae rhieni’n aml yn methu ag ymrwymo â chyfarfodydd neu brosesau, sydd yn ei dro yn arwain at weithwyr cymdeithasol yn gorfod ymyrryd yn fwy.
Mae diffyg ymrwymiad rhieni â’r broses hefyd yn arwain at oblygiadau i’r plentyn. Fodd bynnag, canfuwyd bod eiriolaeth gan rieni yn helpu rhieni i feithrin perthnasoedd cadarnhaol â gweithwyr cymdeithasol ac i godi eu llais wrth drafod sut i amddiffyn eu plant. Mewn rhai ardaloedd, mae rhieni wedi cael cynnig cymorth gan bobl a gafodd eu hyfforddi i ddarparu’r gwasanaethau hyn (a elwir yn aml yn ‘eiriolwyr proffesiynol’), a phobl eraill sydd â phrofiadau bywyd perthnasol sydd hefyd wedi’u hyfforddi (a elwir yn aml yn ‘eiriolwyr sy’n gyfoedion’).
Yn rhan o astudiaeth barhaus, fe wnaethon ni siarad â rhieni sydd â phrofiad bywyd o gydweithio â gwasanaethau amddiffyn plant. Doedd pob un o’r rheini yma ddim yn gweithio gydag eiriolwr. Roedd eu safbwyntiau nhw’n wahanol i gyfranogwyr eraill oherwydd eu bod nhw’n siarad am yr hyn yr hoffen nhw ei weld yn digwydd, yn hytrach na myfyrio ynghylch pa mor dda neu ddrwg oedd eu profiad o wasanaethau eiriolaeth presennol.
Roedd rhieni yn y grŵp yn gefnogol iawn o’r syniad o ddarparu eiriolaeth i rieni sy’n mynd drwy’r broses amddiffyn plant. Fe wnaethon nhw dderbyn y syniad o eiriolwyr ‘proffesiynol’ ac eiriolwyr sy’n ‘gyfoedion’ yn darparu cymorth. Fodd bynnag, fe wnaethon nhw drafod rhai manteision penodol sydd ynghlwm ag eiriolwyr sy’n ‘gyfoedion’. Yn eu barn nhw, mae eiriolwyr sy’n gyfoedion yn fwy tebygol o fod â dealltwriaeth bendant o rieni, yn sgil eu profiadau bywyd eu hunain. Roedden nhw hefyd o’r farn bod modd i eiriolwyr sy’n ‘gyfoedion’ roi cyfle i rieni dynnu ar eu profiadau yn y gorffennol gyda gwasanaethau amddiffyn plant i’w helpu i ymdopi â’r broses. Ystyriwyd bod hyn yn arbennig o bwysig gan fod y rhieni’n teimlo y gallai eu profiadau personol nhw â gwasanaethau amddiffyn plant (profiadau sy’n aml yn drawmatig) gael eu defnyddio mewn ffordd gadarnhaol i hwyluso cymorth effeithiol ar gyfer rhieni eraill. Rhybuddion nhw am y posibilrwydd y byddai ymddiriedaeth rhieni mewn eiriolwyr yn cael ei danseilio pe baen nhw’n gweithio’n rhy agos â gweithwyr cymdeithasol. Fe wnaethon nhw bwysleisio pwysigrwydd cefnogaeth gadarn i eiriolwyr, gan gynnwys hyfforddiant a goruchwyliaeth. Cynigiodd y rhieni dan sylw safbwyntiau unigryw a phwysig ynglŷn ag eiriolaeth ac fe wnaethon nhw ddarparu atebion ymarferol pendant i’r problemau a drafodwyd.
Dr Harriet Lloyd
Cydymaith Ymchwil, CASCADE
Lloyd, H., Harris, C., Cook, L., Williams, J., Roderick, L., Price, Z. a Diaz, C. 2025 ‘They get it, they’ve been through it’: how lived experience can shape understandings of peer parent advocacy. Social Sciences 14(6), rhif yr erthygl: 361. (10.3390/socsci14060361)