Ymunwch â ni am noson o hwyl a dathliadau at achos gwych.
Rydyn ni’n cynnal noson codi arian i gefnogi Cinio Nadolig Caerdydd. Mae’r cinio yn ddigwyddiad blynyddol sy’n croesawu pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal o Gaerdydd a’r cyffiniau i dreulio Dydd Nadolig mewn amgylchedd cynnes a llawen gyda phobl ifanc eraill sydd â phrofiad o ofal. Gwirfoddolwyr sy’n cynnal y digwyddiad hwn. Hebddo, mae pobl ifanc â phrofiad o ofal – efallai mor ifanc â 16 oed – yn aml yn gorfod treulio’r diwrnod ar eu pennau eu hunain ac weithiau mewn llety heb offer coginio.
Dyma’r bedwaredd flwyddyn i wirfoddolwyr o Gaerdydd gynnal y digwyddiad. Bydden ni wrth ein bodd yn rhannu rhan o’r llawenydd rydyn ni wedi’i brofi gyda chi, ond hefyd rhoi cyfle i chi weld pam mae hyn yn angenrheidiol. Ac wrth gwrs i godi arian i helpu i gynnal y digwyddiad!
Amserlen:
17:00 – 17:30 Cyflwyniad byr am y fenter Cinio Nadolig ac adborth o flynyddoedd blaenorol
17:30 – 18:15 Perfformiad gan gôr Voices from Care Cymru
18:15 – 19:30 Raffl, cyhoeddi enillwyr y cwis a rhwydweithio
Byddwn ni hefyd yn trefnu digwyddiad cyfnewid siwmperi, yn gwerthu cacennau a gwin cynnes, a llawer o bethau da eraill o 4pm ymlaen.
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond ystyriwch rhoi rhodd: Mae Nadolig Caerdydd yn codi arian at VOICES FROM CARE
Lleoliad:
Man cynnal digwyddiadau, llawr gwaelod
SBARC|SPARK
Heol Maendy
CF24 4HQ

