Gwasanaethau Lles Addysg: Effeithiolrwydd y cymorth y mae’r Gwasanaeth Lles Addysg yn ei gynnig i ysgolion a rhieni/gofalwyr i fynd i’r afael ag absenoldeb cyson

Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar ansawdd Gwasanaethau Lles Addysg o ran cefnogi ysgolion, Unedau Cyfeirio Disgyblion, a rhieni a gofalwyr er mwyn mynd i’r afael ag absenoldeb cyson o’r ysgol. Tynna ar dystiolaeth o arolygiadau a thrafodaethau gyda Gwasanaethau Lles Addysg ac ysgolion mewn naw o awdurdodau lleol, gan gynnwys 21 o ysgolion cynradd, 18 o ysgolion uwchradd a 6 o ysgolion pob oed. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at yr hyn sy’n gweithio’n dda a’r meysydd y gellir eu gwella o hyd.

Darllen a lawrlwytho’r adroddiad