Daw’r crynodeb pennod yma o’r llyfr Children and Young People ‘Looked After’? Education, Intervention and the Everyday Culture of Care in Wales

Mae’r bennod hon yn crynhoi profiadau un fenyw ifanc, Alice, ar hyd ei thaith trwy’r system ofal ac i addysg uwch. Daw’r data a ddefnyddir yn y bennod o astudiaeth ehangach sy’n edrych ar y ffactorau sy’n helpu neu’n rhwystro llwyddiant addysg uwch ymysg y bobl sy’n gadael gofal.

Dim ond tua 6% o’r rhai sy’n gadael gofal sy’n mynd i addysg uwch, mae hyn llawer is na’r cyfartaledd cenedlaethol o 60%. Er bod rhai gwelliannau wedi’u gwneud i fynd i’r afael â’r nifer arswydus o bobl ifanc sy’n gadael gofal, mae’r niferoedd yn tynnu sylw at faterion yn y system y mae angen mynd i’r afael â hwy.

Datgelodd rhai o’r themâu allweddol a gafwyd o’r astudiaeth fod cael lleoliad sefydlog, tymor hir gyda gofalwyr maeth oedd yn gwerthfawrogi addysg yn ffactor arwyddocaol wrth gefnogi’r siwrnai i’r brifysgol. Mae gofalwr maeth Alice wedi sefydlu agwedd strwythuredig a chyson tuag at addysg gan ddangos ymrwymiad i gefnogi ei llwyddiant academaidd. Mae pobl ifanc mewn gofal yn dal i deimlo eu bod yn gaeth mewn ystrydebau lle mae gan weithwyr proffesiynol, fel athrawon, ddisgwyliadau isel o’u galluoedd academaidd. Mae negyddiaeth o’r fath yn cael effaith sylweddol ar hunan-barch a hyder i lwyddo. I Alice llwyddodd ei phenderfyniad i brofi eraill yn anghywir am ei gallu academaidd i yrru ei hangerdd i fynd i’r brifysgol a graddio.

Mae angen i bob awdurdod lleol annog a hyrwyddo llwyddiant academaidd y rhai sydd yn ei ofal wedi’i ymgorffori mewn deddfwriaeth, polisi ac ymarfer. Dylai’r rhai sy’n dewis mynd i’r brifysgol dderbyn pecyn cynhwysfawr o gefnogaeth gan yr ALl a’r prifysgolion. Gwnaed cynnydd, trwy ehangu mentrau mynediad, i annog mwy o bobl ifanc i ystyried prifysgol. Cynigir cefnogaeth wedi’i theilwra o’r cyfnod cyn mynediad hyd at raddio. Er enghraifft, gall pobl ifanc gael mynediad at fwrsariaeth ymadawr gofal, cymorth gydag elfennau ymarferol cychwyn prifysgol a gallant gael llety trwy gydol y flwyddyn.

Mae’r mesurau hyn yn ddechrau newidiadau mawr eu hangen i’r gefnogaeth i ymadawyr gofal sy’n cyrchu’r brifysgol. Fodd bynnag, mae tystiolaeth o’r astudiaeth hon yn tynnu sylw at yr angen am welliannau mwy systemig o fewn awdurdodau lleol a systemau addysgol.

Pennod 6

Children and Young People ‘Looked After’? Education, Intervention and the Everyday Culture of Care in Wales

Dyma’r ail ddarn o gyfres blog sy’n ymwneud â’r llyfr a ryddhawyd yn ddiweddar “Children and Young People ‘Looked After’? Education, Intervention and the Everyday Culture of Care in Wales”. Darllenwch y blogiau eraill yn y gyfres hon:


Pennod 2 – Martin Elliott
Pennod 7 – Dr Alyson Rees