gan Trish McCulloch and Stephen Webb, British Journal of Social Work, 50(4), 2020, tt. 1146 – 1166.
Ysgrifenwyd yr adoloygiad gan Dr David Wilkins
Ar ba gwestiwn mae’r astudiaeth hon yn canolbwyntio?
Mewn perthynas â gwasanaethau cymdeithasol, barn a fynegir yn aml ymhlith gweithwyr cymdeithasol yw nad yw’r cyhoedd ar y cyfan yn eu hoffi – neu o leiaf nad ydyn nhw’n hoffi’r gwasanaethau maen nhw’n eu cynrychioli. Ond pa mor gywir yw’r farn hon?
Sut aethon nhw ati i’w astudio?
Yn yr erthygl hon, mae’r awduron yn adrodd ar ganfyddiadau arolwg o 2,505 o oedolion yn yr Alban, a ddewiswyd i gynrychioli poblogaeth ehangach yr Alban. Cynhaliwyd yr arolwg yn 2016/17, ac roedd yn cynnwys 43 cwestiwn, wedi’u trefnu mewn chwe thema – i) argraffiadau a chanfyddiadau o wasanaethau cymdeithasol, ii) dealltwriaeth o wasanaethau cymdeithasol, iii) materion sy’n gysylltiedig â gwasanaethau cymdeithasol, iv) profiad o wasanaethau cymdeithasol, v) ymddiriedaeth, gwerth a hyder mewn gweithwyr cymdeithasol a vi) dylanwadau ar ganfyddiadau.
Beth oedd eu canfyddiadau?
Roedd gan hanner yr ymatebwyr farn gadarnhaol am y gwasanaethau cymdeithasol, ac roedd gan draean farn negyddol. Darllenwyr papur newydd The Guardian oedd â’r farn fwyaf cadarnhaol, a darllenwyr The Daily Express oedd a’r farn fwyaf negyddol (gwnewch beth a fynnoch o hynny). Y canlyniadau mwyaf cadarnhaol yn gyffredinol oedd bod ‘gwasanaethau cymdeithasol yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed’ a bod ‘gwasanaethau cymdeithasol yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i bobl yr Alban’. Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr hefyd fod ganddynt wybodaeth a dealltwriaeth dda o’r gwasanaethau cymdeithasol, gan deimlo’n gyffredinol bod gweithwyr cymdeithasol yn cefnogi pobl hŷn ac yn gweithio i gadw plant yn ddiogel. Cytunodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr y gellid ymddiried mewn gweithwyr cymdeithasol proffesiynol i wneud eu gwaith yn dda. Mae’n rhesymol gofyn faint o’r ymatebwyr hyn fyddai wedi cael profiad personol o’r gwasanaethau cymdeithasol, yn enwedig mewn perthynas â gwasanaethau plant – ac eto mae’r awduron yn nodi, er bod cyswllt uniongyrchol wedi dylanwadu ar ganfyddiadau o wasanaethau cymdeithasol, yn gyffredinol nid oedd “unrhyw beth penodol yn y canlyniadau i awgrymu bod mynediad ynddo’i hun yn rhagfynegydd cyson o ganfyddiad”(t. 1159).
Beth yw’r goblygiadau?
Dylai’r canfyddiadau hyn helpu i herio’r gred bod gan y cyhoedd farn negyddol yn bennaf neu yn llwyr am waith cymdeithasol. Fel y dengys yr arolwg hwn, yn yr Alban o leiaf, nid yw hyn yn wir. Mae’n fwy rhesymol disgrifio’r canfyddiadau fel rhai cymysg, sy’n tueddu at y cadarnhaol.
Mae’r hyn y byddai arolwg tebyg yng Nghymru yn ei ganfod yn dal i fod yn gwestiwn agored.
Ysgrifenwyd yr adoloygiad gan