Ysgrifennwyd gan Lorna Stabler
Mae’r cynnydd parhaus yn nifer y plant sydd mewn gofal yn y Deyrnas Unedig wedi arwain at alwadau am ddiwygio sut mae’r wladwriaeth yn rhyngweithio â theuluoedd. Mae trafodaeth ynghylch pam mae’r cynnydd hwn wedi parhau, ac ymhlith y ffactorau a awgrymwyd mae demograffeg, tlodi, amharodrwydd i gymryd risg, cyni, disgwyliadau cynyddol ynghylch rhianta a mwy o wybodaeth am anghenion plant (e.e. Elliot 2019 ). Ar yr un pryd, nid oes consensws ar sut gellid gwrthdroi’r duedd at ddefnydd cynyddol o ofal.
Er mwyn meddwl am sut i leihau nifer y plant mewn gofal mae’n bwysig edrych ar yr hyn sydd wedi effeithio ar y canlyniad hwn o’r blaen. Gyda hyn mewn golwg, buom ni yn CASCADE yn cynnal adolygiad cwmpasu fel rhan o becyn gwaith ar gyfer Beth sy’n Gweithio i ofal cymdeithasol plant.
Ar beth roeddem ni’n edrych?
Mae adolygiad cwmpasu yn ffordd systematig o nodi pa lenyddiaeth sydd ar gael mewn maes penodol. Nododd yr adolygiad cwmpasu hwn glystyrau tystiolaeth allweddol, bylchau ac ansicrwydd ynghylch beth sy’n gweithio’n ddiogel i leihau’r angen i blant a phobl ifanc fod mewn gofal statudol. Mae’r adolygiad yn cwmpasu’r dystiolaeth ar draws tri maes:
- Gostyngiad diogel yn yr angen i blant a phobl ifanc fynd i ofal statudol;
- Gostyngiad diogel yn yr angen i blant a phobl ifanc fynd yn ôl i ofal statudol;
- Cynnydd diogel wrth ail-uno plant a phobl ifanc â’u teulu yn dilyn cyfnod o ofal y tu allan i’r cartref.
Sut aethon ni ati?
Mae chwe cham i ddylunio’r broses adolygiad cwmpasu:
- nodi’r cwestiwn ymchwil
- nodi astudiaethau perthnasol
- dewis astudiaeth
- siartio’r data
- coladu, crynhoi ac adrodd ar ganlyniadau
- ymgynghori â rhanddeiliaid perthnasol.
Mabwysiadodd yr adolygiad cwmpasu hwn ddull ‘realaidd’ o fapio tystiolaeth. Mae dulliau realaidd yn ystyried beth sy’n gweithio, i bwy, ym mha amgylchiadau, ac ym mha ffordd. Felly, crynhowyd canfyddiadau’r astudiaethau y nodwyd eu bod yn berthnasol nid yn unig ar sail a oeddent yn cynnwys data ar yr hyn a ‘weithiodd’ i effeithio ar y canlyniad, ond hefyd ar sail pa ddata oedd ar gael ar bwy y gallai ymyriadau weithio iddynt (neu beidio), ym mha gyd-destunau y gallent weithio, a sut y gallent weithio.
Prif ganfyddiadau
Prif ganfyddiad yr adolygiad cwmpasu oedd y crynodeb o’r ‘mathau o ymyrraeth’ a gwasgariad y dystiolaeth ar eu traws. Mathau o ymyrraeth yw grwpiau o ymyriadau yr ymddengys fel petaent â damcaniaeth o weithio mewn ffyrdd tebyg, er bod ganddynt labeli gwahanol. Nodwyd wyth math o ymyrraeth yn y llenyddiaeth:
- hyfforddiant sgiliau teulu / plentyn
- integreiddio / cydgysylltu gwasanaethau o amgylch anghenion teuluoedd
- cyfarfodydd sy’n dod â theuluoedd a gweithwyr proffesiynol ynghyd i rannu’r broses o wneud penderfyniadau ynghylch diogelwch y plentyn
- newidiadau i’r hyn y mae gweithwyr yn ei wneud (newid ymarfer)
- newidiadau i’r dull therapiwtig neu ddull therapiwtig newydd
- newid strwythur i’r system gofal cymdeithasol
- ymyriadau sy’n gweithredu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol i gynyddu neu leihau cyllid teulu
- ymyriadau mentora
Mae clystyrau a bylchau tystiolaeth yn cael eu mapio ar gyfer pob un o’r wyth math hyn o ymyrraeth yn yr adroddiad llawn. Rydym yn amlygu nifer y papurau sy’n profi a yw’r math o ymyrraeth yn gweithio i leihau’r niferoedd mewn gofal a sut mae’r ymyriadau hyn yn gweithio, i bwy, ac o dan ba amgylchiadau, yn ogystal â thystiolaeth ynghylch gweithredu ac ystyriaethau economaidd.
Beth nesaf?
Roedd yr adolygiad cwmpasu yn fan cychwyn ar gyfer ymchwil i leihau nifer y plant mewn gofal. O hyn, cynhaliwyd adolygiadau mwy manwl i feysydd ymarfer ‘addawol’. Fodd bynnag, nododd yr adolygiad hefyd ddata ansoddol cyfoethog yn y llenyddiaeth sy’n dangos yr hyn a allai fod yn bwysig ar gyfer ymyriadau mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol i blant i leihau nifer y plant sydd mewn gofal. Yn bwysig, dangosodd hefyd ble mae bylchau yn yr hyn sy’n hysbys, yn enwedig o ran yr hyn sydd ei angen i weithredu ymyriadau yn llwyddiannus, a beth allai cost yr ymyriadau hyn fod.
Ysgrifennwyd gan