Ym mis Mawrth 2020, fe wnaeth pandemig COVID-19 arwain at gyfnod clo ledled y wlad ac fe effeithiodd hynny mewn sawl ffordd ar blant Cymru, gan gynnwys cyfyngiadau teithio a newidiadau i’r ddarpariaeth addysg. Roedd hyn yn cynnwys cau ysgolion yn ystod y cyfnodau clo cenedlaethol rhwng Mawrth 2020 a Mehefin 2020, ac Ionawr 2021 a Mawrth 2021. Rhwng y cyfnodau hyn roedd ysgolion yn gweithredu system ‘swigen’, lle’r oedd plant ond yn cael cymysgu â nifer fach o gyd-ddisgyblion, a oedd wedi’i drefnu ymlaen llaw. Cafodd y cyfyngiadau a’r newidiadau hyn effaith sylweddol ar brofiadau addysg, cymdeithasol ac emosiynol plant, athrawon, rhieni a gofalwyr.

Mae adroddiad newydd wedi’i lansio sy’n cyflwyno canfyddiadau astudiaeth a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar addysg yn ystod pandemig COVID-19, sy’n cynnwys plant 5-7 oed (n=30), athrawon (n= 6) a rhieni a gofalwyr (n=18) yng Nghymru. Bwriad yr astudiaeth oedd cynnig llwyfan i leisiau plant a rhoi cyfleoedd iddynt rannu eu profiadau o’r pandemig. Casglwyd data gan ddefnyddio methodolegau creadigol, nodiadau maes a chyfweliadau ansoddol, sy’n cynnig cipolwg ar brofiadau goddrychol plant yn ystod pandemig COVID-19.

‘Gweld eisiau ffrindiau’

Dywedodd y plant eu bod yn teimlo colled, tristwch ac unigrwydd sy’n arwydd o effeithiau negyddol ar les. Roedd y plant gweld eisiau mynd i’r ysgol, gweld eu hathrawon a bod yn yr ystafell ddosbarth. Fodd bynnag, buont hefyd yn sôn am bwysigrwydd teulu, anifeiliaid anwes, athrawon, a’r amgylchedd naturiol, yn ogystal â rhai o fanteision a’r cyfyngiadau wrth ddefnyddio technolegau digidol a dulliau cyfathrebu o bell. Tynnodd yr astudiaeth sylw at allu plant ifanc i leisio’u profiad a hefyd i fod yn adnodd wrth lunio’r cwricwlwm a chyfeiriad eu dysgu; ac mae’r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion ar gyfer polisi ac ymarfer gan dynnu ar brofiadau plant.

Bydd yr adroddiad hwn yn adnodd pwysig i unrhyw un sydd â diddordeb ym mhrofiadau plant ifanc o addysg yn ystod pandemig Covid-19, a’r rhai sydd â diddordeb mewn ffyrdd o ymgysylltu â phlant ifanc a’u hwyluso i rannu eu profiadau trwy ddulliau creadigol. Mae dulliau a chanfyddiadau’r astudiaeth hon yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol i athrawon, llunwyr polisi addysg, rhieni a gofalwyr, sefydliadau cymunedol, ac ymchwilwyr.

Mae’r adroddiad llawn ar gael yma ac yma

Tyrie, J., Chicken, S., Knight, C., Mannay, D., Tur Porres, G., Waters–Davies, J., Westall, A., Waites, T., Grout, E., Parnell, J., Bond, A. a Handley, B. 2022. COVID–19, education and learning: amplifying young children’s voices. Caerdydd: Llywodraeth Cymru

Prif Ymchwilydd: Dr Jacky Tyrie – Prifysgol Abertawe – j.tyrie@swansea.ac.uk

Cyd ymchwilwyr: Dr Sarah Chicken, Dr Cathryn Knight, Dr Dawn Mannay, Dr Gisselle Tur Porres, Tegan Waites, Dr Jane Waters–Davies, Anna Westall – Ymchwilwyr: Amy Bond, Ellie Grout, Bridget Handley, Dr Jade Parnel