Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

Ar y cwrs hyfforddi hwn sy’n chwe wythnos o hyd, byddwch yn dysgu sut i greu rhaglen radio neu bodlediad. Mae’r cwrs yn un achrededig, gyda’r cyfle i chi gyflawni Agored Cymru Unit.

Byddwch hefyd yn dysgu am y mathau gwahanol o gynnwys radio, sut i hel a chreu straeon newyddion, a chreu recordiadau o ansawdd uchel. Rhowch gynnig ar gyflwyno, cyfweld a thrafod pynciau sydd o bwys i chi.

P’un ai’ch bod chi wrth eich bodd â radio a phodlediadau, neu â dim profiad o’r cyfrwng, mae’r cwrs yma wedi’i deilwra i’ch cefnogi chi, beth bynnag eich lefel o brofiad.

Ar ôl cwblhau’r cwrs, mae croeso i’r cyfranogwyr ymuno â thîm Radio Platfform – i gyflwyno, creu sioeau ar gyfer yr orsaf ac ymwneud â digwyddiadau ecsgliwsif i aelodau Radio Platfform.

I bwy mae’r rhaglen?

Mae’r cyrsiau’n agored i unrhyw un 14 – 25 oed o bob cefndir ac o bob rhan o Gymru.

Pryd?

Bob dydd Iau, 6pm – 8pm dros chwe wythnos yn dechrau 15 Medi 2022.

Unwaith i chi gofrestru, byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth am y cwrs.

Mae chwe sesiwn i’r cwrs yma, ar y dyddiadau canlynol:  15 Medi, 22 Medi, 29 Medi, 6 Hydref, 13 Hydref and 20 Hydref a bydd angen i chi fynychu bob un. Ychwanegwch un tocyn i’ch basged i archebu’ch lle ar y cwrs cyfan.

Ble?

Radio Platform

Os yw’r cwrs hwn wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni mewn cysylltiad os bydd lle ar gael.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.