Ennyn diddordeb merched ym meysydd STEM: Ymunwch â chystadleuaeth am ddim CyberFirst i ferched

Gall athrawon ledled Cymru ysbrydoli merched blwyddyn 8 i ddysgu am dechnoleg a datrys problemau. I helpu ysgolion i gymryd rhan, mae modd cynnal sesiwn flasu awr o hyd i’ch ysgol, a hynny’n rhad ac am ddim. E-bostiwch wales@cyberfirstschools.co.uk i drefnu.  Mae’r cyfnod cofrestru (24–28 Tachwedd 2025) ar gyfer cystadleuaeth ar-lein 2025/26 bellach ar agor.


Cystadleuaeth dylunio cerdyn Nadolig swyddogol
y Prif Weinidog ar gyfer 2025

Dyddiad cau: 24 Tachwedd (hanner dydd)

Mae Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, yn gwahodd plant o flynyddoedd 5 a 6 mewn ysgolion cynradd ledled Cymru i ddylunio ei cherdyn Nadolig swyddogol eleni. Thema’r gystadleuaeth eleni yw ‘Nadolig Cymreig.’

Darllenwch y canllawiau cystadlu yma. E-bostiwch eich ceisiadau ar ffurf ffeiliau PDF neu jpg ansawdd uchel i cabinetcommunications@gov.wales