Ysbrydoli! Gwobrau Addysg Oedolion
Mae Gwobrau Ysbrydoli! yn dathlu llwyddiannau unigolion, prosiectau a sefydliadau sydd wedi dangos angerdd, ymrwymiad a phenderfyniad eithriadol i wella eu hunain, eu cymuned neu weithle trwy ddysgu.
Ysbrydolwch ni trwy wneud enwebiad – rydym yn chwilio am unigolion, prosiectau cymunedol, a sefydliadau y bydd eu cyflawniadau dysgu yn ysbrydoli eraill i ddechrau neu i ddychwelyd at ddysgu – pobl sydd wedi gwella eu bywydau a / neu fywydau pobl eraill ac wedi cael profiad cadarnhaol, sydd wedi newid eu bywydau yn sgil addysg oedolion.
Dyddiad cau: Dydd Gwener 31 Mawrth 2023
Gwobrau Prentisiaethau Cymru
Mae’r broses ymgeisio’n agored nawr ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.
Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gwobrwyo unigolion, darparwyr dysgu, a chyflogwyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Cyflogadwyedd a Phrentisiaethau ledled Cymru.
Mae’r Rhaglen Brentisiaethau’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Bydd y Gwobrau hyn, sy’n cael eu trefnu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), yn arddangos ac yn dathlu llwyddiant rhai sydd wedi rhagori ar ddisgwyliadau gan ddangos agwedd ddeinamig at hyfforddiant, ynghyd â brwdfrydedd a menter, dyfeisgarwch a chreadigrwydd, dealltwriaeth o’r angen i wella sgiliau er lles economi Cymru ac ymrwymiad i wneud hynny.
Mae’r Gwobrau’n gyfle i unigolion a sefydliadau gael eu cydnabod a’u gwobrwyo am eu hymroddiad, eu gwaith caled a’u llwyddiant yn rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Cyflogadwyedd a Phrentisiaethau.
Mae Her Arian Ifanc 2020 yma!
Mae’r Her Arian Ifanc gyntaf erioed wedi’i lansio. Dadlwythwch eich Pecynnau Her – maen nhw’n cynnwys popeth sydd ei angen arnoch chi a’ch myfyrwyr i gymryd rhan yn yr Her Arian Ifanc! @youngmoneyedu #YMChallenge2020
Dyddiad cau: 27 Mawrth 2020
Enillwch ymweliad â Glan-Llyn ar gyfer eich Ysgol neu Goleg
Byddwch y grŵp cyntaf erioed i aros yng nghanolfan newydd Glan-IIyn Isa’, gwobr sy’n werth mwy na £ 8,000! Yn agored i ysgolion uwchradd, grwpiau colegau a phrifysgolion.
Dyddiad cau: 3 Ebrill 2020
Enwebiadau ar gyfer Gwobr Athro Almaeneg 2020
Os ydych chi’n adnabod athro Almaeneg gwirioneddol ragorol yn eich ysgol gynradd neu uwchradd – gwnewch yn siŵr bod eu hymroddiad a’u rhagoriaeth yn cael y gydnabyddiaeth y maen nhw’n ei haeddu!
Dyddiad cau: 10 Ebrill 2020
Cystadleuaeth datblygu cynnyrch i ennill iPad
Mae Arloesi Bwyd Cymru yn gwahodd disgyblion 11-16 oed i greu cynnyrch bwyd a diod newydd o Gymru i gael cyfle i ennill iPad.