ADRODDIAD YMCHWIL

Awduron: Dr Helen Hodges, Dan Bristow

Blwyddyn: Gorffennaf 2019

Crynodeb:

Ar y 31 o Fawrth 2018, roedd 6,405 o blant yn derbyn gofal yng Nghymru, bron i 1,900 yn fwy o blant nag a oedd yn derbyn gofal yn 2006. Dros yr amser hwnnw mae Cymru yn gyson wedi cael mwy o blant i bob 10,000 o’r boblogaeth na gweddill y DU, a hynny bwlch wedi ehangu.

Yng Nghymru, er bod y mwyafrif o Awdurdodau Lleol wedi gweld cynnydd yn nifer a chyfradd y plant sy’n derbyn gofal, mae amrywiad sylweddol; ac mae rhai wedi gweld cyfradd y plant sy’n derbyn gofal yn cwympo er 2014. Gan ddefnyddio data cyhoeddedig, mae’r adroddiad hwn yn archwilio’r hyn y gallwn ei ddweud am y ffactorau sy’n gyrru’r tueddiadau hyn.