“Mae cerddoriaeth yn helpu i brosesu fy meddyliau – hyd yn oed pan fydd bywyd yn teimlo’n llanast”… Defnyddio gweithdai ysgrifennu geiriau caneuon i ennyn diddordeb gofalwyr ifanc mewn canfyddiadau ymchwil iechyd cyhoeddus

Mae gofalu anffurfiol yn gyffredin ledled ein cymunedau ac yn nodwedd o fywyd teuluol bob dydd i lawer.  Mae data Doeth am Iechyd Cymru yn dangos bod gofalwyr anffurfiol yn profi iechyd meddwl gwaeth ac yn nodi ymddygiadau hunanofal gwaeth na’u cyfoedion. Yn wir, ceir pryder cynyddol am effaith gofalu ar ofalwyr anffurfiol, ond hyd yma, mae’r rhan fwyaf o ymchwil yn y maes wedi canolbwyntio ar ddarparwyr gofal sy’n oedolion. 

Roeddem ni’n awyddus i ddod o hyd i ffordd o ymgysylltu â gofalwyr iau i drafod ein canfyddiadau yng nghyd-destun eu profiadau byw mewn modd a fyddai’n barchus ac yn fuddiol i’r ddwy ochr. Cafodd amseriad y prosiect ymgysylltu yn ystod cyfnod clo COVID-19 effaith ar y gallu i’w gyflawni mewn ffyrdd oedd yn heriol a hefyd yn  ffafriol.

Doeth am Iechyd Cymru

Adnodd ymchwil iechyd ar-lein yw Doeth am Iechyd Cymru dan arweiniad Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe. Rydym ni’n dod ag ymchwilwyr a’r cyhoedd ynghyd i gyflawni ymchwil bwysig.  Mae aelodau ledled Cymru (>35,000 o gyfranogwyr dros 16 oed) yn cymryd rhan mewn arolygon trwy ddangosfwrdd diogel Doeth am Iechyd Cymru ac mewn astudiaethau eraill a arweinir gan ymchwilwyr.  Mae’r holl gyfranogwyr yn cydsynio y gellir cysylltu eu data arolwg Doeth am Iechyd Cymru yn ddiogel â’u cofnodion Gofal Iechyd (banc data SAIL, Prifysgol Abertawe).  Mae hyn yn golygu bod modd astudio effaith ffordd o fyw a ffactorau ymddygiad ar ddeilliannau iechyd.  Mae adnodd Doeth am Iechyd Cymru ar gael i ymchwilwyr dilysedig ar gyfer recriwtio cyfranogwyr, casglu data, integreiddio data a dadansoddi o bell.  Gall unrhyw un sy’n byw yng Nghymru neu sy’n derbyn gofal iechyd yng Nghymru ymuno fel cyfranogwr.  Darllenwch fwy a chofrestrwch ar ein gwefan www.healthwisewales.org

Dulliau

Roedd adborth gan gyfranogwyr Doeth am Iechyd Cymru yn awgrymu y gallai dulliau celfyddydol fod yn ddefnyddiol ar gyfer ennyn diddordeb pobl ifanc yn ein hymchwil.  Ysbrydolodd ein profiad gyda’r gymuned Adrodd Straeon er Iechyd ni i ystyried ysgrifennu geiriau caneuon fel dull a fyddai’n galluogi gofalwyr ifanc i adrodd eu straeon eu hunain mewn amgylchedd cefnogol.  Mantais arall i’r dull hwn oedd ei fod yn hyfforddiant seiliedig ar sgiliau a allai fod o ddiddordeb a defnydd i’r gofalwyr ifanc yn y tymor hirach.  Ar sail hyn, nodwyd Ministry of Life (MoL) fel partner prosiect.  Mae MoL yn gwmni buddiannau cymunedol sy’n darparu gwasanaethau cymorth ieuenctid ac mae ganddo gangen addysgol (MoL Education) sy’n darparu hyfforddiant mewn cynhyrchu cerddoriaeth.  

Angen yw mam pob celf…

Y bwriad i ddechrau oedd cynnig gweithdai wyneb yn wyneb yn y gymuned i gyfranogwyr Doeth am Iechyd Cymru. Fodd bynnag, chwalodd amodau cyfnod clo pandemig COVID-19 ein cynlluniau.  Fel mae’n digwydd, roedd perthynas eisoes yn bodoli rhwng MoL a’r YMCA lleol ac arweiniodd hyn at gyfle i weithio gyda gofalwyr ifanc oedd eisoes wedi cofrestru ar gyfres o weithdai, ac roedd angen partner ar YMCA i arwain y gweithdai.  Doedd cyflwyno ar-lein ddim yn rhywbeth yr oedden ni wedi’i ystyried, ond cydion ni yn y cyfle rhithwir, ac ar ôl delio gyda’r holl faterion diogelwch a diogelu, penderfynwyd cyflwyno’r gweithdai ysgrifennu geiriau ar-lein trwy Zoom.

Roedd y profiadau oedd ein partneriaid yn MoL ac YMCA mewn gwaith ieuenctid a dulliau gweithio sefydledig yn hollbwysig wrth gyflwyno’r gweithdai yn barchus, gan osod y sail ar gyfer cyfranogi a chyd-gynhyrchu gyda’r gofalwyr ifanc a hyrwyddo ymddiriedaeth, cefnogaeth ac ymgysylltu parhaus dros sawl wythnos.  Roedd y gweithdai’n llwyddiannus iawn ac ar ôl clywed sôn amdanyn nhw, ymunodd mwy o ofalwyr ifanc a hwyluswyd gweithdai ychwanegol drwy ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru gyda Chanolfan Gofalwyr Abertawe.

Gwerthuso a chanlyniadau

Defnyddiwyd logiau presenoldeb, nodiadau arsylwi o’r sesiynau, y geiriau a gyfansoddwyd gan y gofalwyr ifanc, recordiadau o farn rhanddeiliaid gan gynnwys staff o sefydliadau partner ac arweinwyr gweithdai i werthuso’r gweithdai.

Cymerodd pedwar deg chwech o ofalwyr ifanc ran yn y prosiect mewn 24 sesiwn ar-lein.  Defnyddiwyd ffeithluniau’n seiliedig ar ganfyddiadau ymchwil Doeth am Iechyd Cymru fel sail i’r drafodaeth.  Cofleidiodd y bobl ifanc y canfyddiadau a’u cael yn ddefnyddiol i annog trafodaeth am eu profiadau eu hunain.

Gosododd y cyfranogwyr her iddyn nhw eu hunain i greu geiriau ar gyfer caneuon er mwyn cael allbynnau o’r sesiynau y gallen nhw eu rhannu gyda ffrindiau ac ar gyfryngau cymdeithasol.  Sgwrsio, taflu syniadau ac ysgrifennu geiriau oedd craidd y sesiynau.  Cafwyd ymweliadau gwadd gan artistiaid cerddorol lleol hefyd.  Troswyd y geiriau a gyfansoddwyd yn ystod y gweithdai yn GIFs ac animeiddiadau eraill gan ddarlunydd graffig dan arweiniad y gofalwyr ifanc ac roedd y rhain ar gael i’r gofalwyr ifanc eu rhannu.  Yn ddiweddarach perfformiwyd un o’r caneuon gan yr awdur mewn digwyddiad i lansio cardiau adnabod Gofalwyr Ifanc.

Roedd y canlynol ymhlith yr effeithiau a ddeilliodd o gyfranogi yn y gweithdai a welwyd yn y themâu allweddol a nodwyd yn y data ansoddol:

Cysylltedd.  Roedd y gweithdai ysgrifennu geirau’n gyfle i’r gofalwyr ifanc gael seibiant ar adeg llawn straen yn ystod cyfnodau clo pandemig COVID-19 ac yn gyfle i rannu eu profiadau gyda gofalwyr ifanc eraill nad oedd eisoes yn rhan o’u grwpiau cyfeillgarwch. 

“Gyda Covid bu’n rhaid i lawer o fy ngrwpiau orffen neu doedd dim llawer yn digwydd felly roedd yn anodd iawn bod yn gynhyrchiol a chario ‘mlaen. Yn y ddwy sesiwn fe wnes i feddwl am rywbeth, a gwnaeth i mi deimlo. . . fel o, aros funud. Dwi’n gallu gwneud rhywbeth, sy’n rhywbeth dydw i ddim yn teimlo’n aml iawn.” Benyw, Sesiwn Safle 2

“Roedd yn braf cael cyfle i wneud rhywbeth gyda phobl eraill, rhai ohonyn nhw efallai dydych chi ddim yn eu nabod ac mae’n braf cael dod i ganu am ychydig.” Benyw, Sesiwn Safle 2

Cyflawni

Roedd y sesiynau hefyd gwneud i’r cyfranogwyr deimlo eu bod yn cyflawni rhywbeth, oedd yn hwb i’w hunanhyder.

Dywedodd un o’r cyfranogwyr: “Fe wnes i fwynhau’r sesiynau’n fawr gan ei fod yn rhywbeth dwi’n gallu ei wneud sy’n gynhyrchiol ac yn rhoi ymdeimlad o lwyddiant i mi. Bob tro y byddwn i’n meddwl am eiriau cân neu bob tro o’n i’n cyfrannu, roedd yn deimlad fel ‘hei dwi’n gwneud rhywbeth’ sydd ddim yn rhywbeth dwi’n ei deimlo’n aml yn ddiweddar, felly mae hynny wedi fy helpu” Benyw, Sesiwn Safle 2

Soniodd gofalwr ifanc arall am rôl y sesiynau wrth helpu i feithrin hyder i oresgyn rhwystrau:

“Roeddwn i’n nerfus amdano, ond dwi’n gwybod eich bod chi bob amser yn mynd i fod yn nerfus ac mae’n braf oherwydd ‘dych chi ddim wir yn cael eich barnu ac mae’n deimlad o gyflawniad er cymaint ydych chi’n meddwl na allwch chi wneud rhywbeth am y peth. . . ac yna cael pobl dydych chi ddim yn eu nabod fel y canwr ei hun yn dweud y gallwch chi ei wneud e. Mae’n gwneud i chi deimlo’n dda amdanoch chi eich hun.”  Benyw, Sesiwn safle 1

Hunanfynegiant

Roedd cael y cyfle i fynegi eu teimladau a’u meddyliau drwy ysgrifennu geiriau yn ymddangos yn bwysig i ofalwyr ifanc oedd yn ei chael yn anodd cael gwrandawiad i’w lleisiau.

“Mae bob amser fel pe baen ni’n ymladd am le gyda gwahanol bobl ac yn amlwg mae mor braf gallu mynegi eich teimladau a gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu gwneud mewn ffordd gynhyrchiol.” Benyw, Sesiwn safle 2.

Soniodd cyfranogwr arall am werth teimlo a glywir trwy fynegiant: “Rydych chi’n gosod eich emosiynau ar bapur sydd, dwi’n meddwl, wedi’i brofi fel ffordd dda i fynegi eich emosiynau. Heb hynny allwch chi ddim siarad gyda rhywun, ond nid hynny’n unig, mae eich llais yn cael ei glywed oherwydd mewn grŵp rydych chi’n gosod eich emosiynau ar bapur ac yn gweld bod gan bobl o’ch cwmpas chi syniadau a meddyliau eraill ac mae fel rhyw fath o therapi grŵp” Benyw, Sesiwn safle 2.

Ymgysylltu cymdeithasol

Yn olaf, tynnodd y gofalwyr ifanc sylw at waddol y gweithgareddau o ran effaith bosibl y cynnyrch creadigol ar ofalwyr ifanc eraill. Dywedodd un gofalwr ifanc:

“rydych chi’n creu’r gân ar ddiwedd y sesiwn, rydych chi wedi gallu ei rhoi allan i’r byd a chael pobl eraill i feddwl hei dwi’n teimlo fel’na. Mae’n cael rhyw fath o sgil-effaith wedyn” Benyw, Sesiwn adborth safle 2.

Roedd gan y gofalwyr ifanc ymdeimlad o falchder o ganlyniad i’w rhan yn y gweithdai, ac yn amlwg yn gwerthfawrogi cael bod yn rhan o’r ymchwil a’r effaith gadarnhaol bosibl ar eraill:

“ni yw cenedlaethau’r dyfodol ond bydd cenhedlaeth yn y dyfodol sy’n iau na ni ac mae angen iddyn nhw gael doethineb gennym ni sydd wedi bod drwy’r peth, mae angen iddyn nhw gael yr arweiniad na fydd pobl eraill yn ei roi iddyn nhw” Benyw Sesiwn adborth safle 2.

Ceir rhagor o fanylion am y geiriau a gynhyrchwyd mewn cyhoeddiad gwyddonol yn seiliedig ar y prosiect https://doi.org/10.1080/02673843.2024.2387102

Gwyliwch animeiddiad fideo cerddorol o un o’r caneuon a gynhyrchwyd gan y gofalwyr ifanc: Teimlo’n Dda – Troi Ffeithiau yn Weithredoedd

Beth ddysgon ni

Roedd gweithdai ysgrifennu geiriau yn ffordd effeithiol o ennyn diddordeb gofalwyr ifanc mewn ymchwil iechyd cyhoeddus sy’n berthnasol iddyn nhw.  Roedd eu profiad o’r gweithdai yn weithgaredd hwyliog a hwylusodd drafodaeth rhwng gofalwyr ifanc a’u galluogi i rannu profiadau sy’n berthnasol i’w hiechyd meddwl a’u lles.  Roedd y gofalwyr ifanc yn deall ac yn mwynhau’r ffaith y gallai eu geiriau gael effaith a helpu eraill mewn sefyllfaoedd tebyg ac roedden nhw’n falch o’r hyn a gyflawnwyd.  Roedd y diogelu a ddarparwyd gan staff YMCA a Chanolfan y Gofalwyr (eu presenoldeb yn y gweithdai fel goruchwylwyr) yn codi eu hymwybyddiaeth o faterion na fyddai wedi codi yn organig.  Drwy hyn, llwyddodd yr hwyluswyr a’r cyfranogwyr i gael mewnwelediadau unigryw. 

Er gwaethaf ein pryderon cychwynnol am gyflwyno’r gweithdai’n rhithiol, roedd y nifer a ddychwelodd yn uchel, ac roedd y sesiynau’n hawdd eu cynnwys yn nhrefniadau dyddiol y gofalwyr ifanc.  Ni chafwyd unrhyw broblemau o ran diogelu na chydsynio. Roeddem ni hefyd yn gallu hwyluso’r gweithdai mewn lleoliadau amrywiol yn ddaearyddol.  Mae angen rhagor o waith er mwyn ail-greu’r prosiect ar raddfa fwy, gan gyflwyno wyneb yn wyneb neu hybrid (ar-lein ac wyneb yn wyneb) o bosibl a chynnwys grwpiau eraill anodd eu cyrraedd a mwy amrywiol.


Cydnabyddiaeth

Cefnogwyd y gwaith gan Ddyfarniad Prawf o Gysyniad – Cronfa Cefnogaeth Strategol i Sefydliadau ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd, Ymddiriedolaeth Wellcome

Diolch i’r holl ofalwyr ifanc a gymerodd ran yn y gweithdai, ein partneriaid yn MoL, YMCA Caerdydd, Canolfan Gofalwyr Ifanc Abertawe, Ymddiriedolaeth y Gofalwyr a Mr Carl Smith, Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd, Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.

Crëwyd y blog hwn gan Dr Pauline Ashfield-Watt, Doeth am Iechyd Cymru, Prifysgol Caerdydd – healthwisewales@cardiff.ac.uk

Tîm y prosiect: Dr Foteini Tseliou (Prifysgol Caerdydd), Dr Jonathan Gunter (MoL), Dr Sofia Vougioukalou (Prifysgol Caerdydd), Dr Pauline Ashfield-Watt (Prifysgol Caerdydd).

Ceir rhagor o wybodaeth am y prosiect yn yr erthygl hon: Tseliou, F., Gunter, J., Vougioukalou, S. ac Ashfield-Watt, P. 2024. Engaging young carers in public health research through online lyric writing workshops during the COVID-19 pandemic. International Journal of Adolescence and Youth, 29(1). https://doi.org/10.1080/02673843.2024.2387102