Digwyddiadau

Dysgwch fwy am ein digwyddiadau a gweminarau sydd ar ddod, a sut y gallwch chi gofrestru, ar y dudalen hon. Am restr o ddigwyddiadau’r gorffennol, ewch i’n harchif.

" alt="thumbnail" />

Gweminar: Profiadau a deilliannau plant awtistig mewn gofal maeth a gofal gan berthynas yng Nghymru

Bydd y weminar hon yn cyflwyno canfyddiadau prosiect tair blynedd sy'n edrych ar anghenion a deilliannau plant awtistig mewn gofal yng Nghymru. Cynhaliwyd yr astudiaeth hon mewn tair rhan, ac mae’n cynnwys amrywiaeth o ddulliau. Roedd rhan un yn cynnwys dadansoddiad o ddata cysylltiedig gan ddefnyddio Cronfa Ddata SAIL i ddeall mwy am niferoedd y plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal sy'n derbyn diagnosis o awtistiaeth, eu hoedran pan gânt ddiagnosis a'u deilliannau addysgol a'u diagnosis iechyd meddwl pan fyddan nhw’n dod yn oedolion. Roedd rhan dau yn cynnwys arolwg a ddosbarthwyd i ofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthynas yng Nghymru, i gasglu gwybodaeth am ddiagnosis plant mewn gofal, yn ogystal â lefelau nodweddion awtistig, nodweddion anhwylder ymlyniad a chryfderau ac anawsterau eraill. Roedd y rhan olaf yn cynnwys cyfweliadau ymchwil gyda gweithwyr proffesiynol ym maes gwaith cymdeithasol a gofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthynas mewn tri awdurdod lleol yng Nghymru, er mwyn deall mwy am yr hyn sy'n gweithio'n dda a'r heriau presennol, yn benodol ynghylch diagnosis ac anghenion cymorth plant awtistig. Cyflwynir canfyddiadau o bob rhan, ochr yn ochr â gwybodaeth am y camau nesaf a'r gwaith sydd i'w wneud yn y dyfodol.

location-iconAr-lein, Teams

time-icon12:00 - 14/01/2026

Mae ExChange Wales yn dod ag ymchwilwyr blaenllaw, ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaeth ynghyd i rannu arbenigedd, tystiolaeth ymchwil a phrofiadau o ofal.

Trwy ein cynadleddau, gweithdai, darlithoedd a seminarau, mae ExChange yn darparu hyfforddiant o ansawdd uchel am ddim i gefnogi datblygiad parhaus gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol ledled Cymru. Wrth ddenu siaradwyr cenedlaethol blaenllaw, rydym yn dysgu ac yn cynghori ymchwil sy’n effeithio polisi ac ymarfer. Mae ein digwyddiadau a’n hadnoddau yn cyfoethogi sgiliau wrth flaenori profiadau llaw gyntaf pobl â phrofiad o ofal.

Mae ystod o ffyrdd y gallwch chi weithio gydag ExChange. Os ydych chi am gynnal gweithdy ExChange, gweminar, podlediad neu flog, cysylltwch â ni.

Cymerwch olwg ar ein cynhadledd ddiweddaraf.

Mae cynadleddau ExChange Cymru yn dod ag ymchwilwyr blaenllaw ynghyd ag ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaethau i rannu arbenigedd, tystiolaeth ymchwil a phrofiadau gofal.
Cymorth dementia mewn Byd Amrywiol

Cymorth dementia mewn Byd Amrywiol

Chw 10, 2025

Mae ymwybyddiaeth gynyddol o’r angen am well ymchwil dementia i wella’r cymorth sy’n cael ei rhoi i bobl sy’n byw gyda dementia.  Mae Cymdeithas Alzheimer’s wedi amcangyfrif y bydd 1 o bob 3 o bobl a gafodd ei eni yn…