Mae ExChange Wales yn dod ag ymchwilwyr blaenllaw, ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaeth ynghyd i rannu arbenigedd, tystiolaeth ymchwil a phrofiadau o ofal.
Trwy ein cynadleddau, gweithdai, darlithoedd a seminarau, mae ExChange yn darparu hyfforddiant o ansawdd uchel am ddim i gefnogi datblygiad parhaus gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol ledled Cymru. Wrth ddenu siaradwyr cenedlaethol blaenllaw, rydym yn dysgu ac yn cynghori ymchwil sy’n effeithio polisi ac ymarfer. Mae ein digwyddiadau a’n hadnoddau yn cyfoethogi sgiliau wrth flaenori profiadau llaw gyntaf pobl â phrofiad o ofal.
Mae ystod o ffyrdd y gallwch chi weithio gydag ExChange. Os ydych chi am gynnal gweithdy ExChange, gweminar, podlediad neu flog, cysylltwch â ni.
Digwyddiadau I Ddod
Cyfres 1 DRILL: Moeseg ymchwil anabledd – Gwersi ar gyfer ymchwil ac ymarfer
Rhwydwaith Cymru gyfan yw ExChange, a’i nod yw dod â gweithwyr, ymchwilwyr a’r rheini sy’n defnyddio gwasanaethau ynghyd i rannu profiadau ac arbenigedd, ac i ddysgu o’i gilydd. Ein nod yw gwella gwaith cymdeithasol a gwasanaethau gofal cymdeithasol drwy sbarduno…
Gweminar: Defnyddio llety diogel at ddibenion lles yng Nghymru
Cartrefi preswyl yw llety diogel gyda chymeradwyaeth i gyfyngu ar ryddid pobl ifanc rhwng 10 a 17 oed sy’n risg ddifrifol iddynt hwy eu hunain neu i eraill…
Sut allwn ni wella profiad pobl ifanc digartref sy’n byw mewn llety a chymorth?
Mynychodd llawer o bobl broffesiynol, gyda nifer ohonynt yn gweithio yn y sector tai cymdeithasol. Roeddem yn ffodus hefyd i gael presenoldeb nifer o’r bobl ifanc oeddyn gysylltiedig i’r prosiect ymchwil…
Gweld mwy o ddigwyddiadau a gynhelir yn allanol gan Deulu a Chymuned: