Gweminar:
Eiriolaeth Rhieni mewn Gwasanaethau Amddiffyn Plant yn Lloegr

Cyflwynwyr:
Dr Harriet Lloyd (Prifysgol Caerdydd) & Professor Clive Diaz (Prifysgol Abertawe)

Dyddiad: Dydd Mercher 2 Rhagfyr 2026
Amser: 12:00 – 13:00
Lleoliad: Ar-lein, Teams

Abstract

Drwy ymwneud â gwasanaethau plant, mae rhieni’n teimlo’n ofnus, yn ddryslyd ac yn ddi-rym. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anoddach iddyn nhw gymryd rhan, sydd yn ei dro yn ei gwneud hi’n anoddach i weithwyr cymdeithasol asesu risg yn fanwl gywir. Gall ymgysylltiad cyfyngedig gan rieni arwain at gynyddu’r angen i ymwneud â gwasanaethau amddiffyn plant.

Mae eiriolaeth rhieni yn ymyriad gwerthfawr posibl yn y maes hwn. Yn yr Unol Daleithiau mae ymchwil wedi dangos bod eiriolaeth rhieni yn helpu i wella perthnasoedd rhwng rhieni a gweithwyr cymdeithasol, grymuso rhieni i gyfrannu at y broses gwneud penderfyniadau ac yn ei dro, yn lleihau nifer y plant sy’n cyrraedd y system ofal.

Bydd y seminar hon yn cyflwyno canfyddiadau’r gwerthusiad realistig cyntaf ar raddfa fawr o eiriolaeth rhieni yn Lloegr. Cynhaliwyd yr ymchwil ar draws pedair ardal awdurdod lleol, sy’n amrywio yn ddaearyddol, o ran eu diwylliant sefydliadol a’u cynllun eiriolaeth. Er bod gwahanol ffurfiau’n bodoli ar draws ardaloedd yr astudiaeth, roedd eiriolaeth rhieni yn dylanwadu ar sut roedd rhieni yn profi, deall ac yn cymryd rhan yn y broses gwneud penderfyniadau statudol sy’n ymwneud ag amddiffyn plant. Byddwn ni’n trafod y nodweddion cyd-destunol a helpodd i sefydlu eiriolaeth, arwyddion o’i effaith ar ddeilliannau, a sut mae’r canfyddiadau wedi datblygu ein theori ar sut mae eiriolaeth yn gweithio. Byddwn ni hefyd yn ystyried cyfeiriadau ymchwil pellach ac argymhellion ar gyfer ymarfer.

Biographies

Mae Dr Harriet Lloyd wedi gweithio’n Gydymaith Ymchwil yn y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE) ers 2023. Ei phrif ddiddordeb ymchwil yw ymyriadau a allai newid llwybrau i deuluoedd, megis dod â’r duedd o osod plant mewn gofal o un genhedlaeth i’r llall i ben. Mae hi wedi cael cyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i archwilio i Ganolfannau Asesu Teuluoedd Preswyl (unedau mamau a babanod).

Dr Clive Diaz yw Uwch Arweinydd Academaidd Canolfan Rees, Prifysgol Rhydychen. Mae’n ymchwilydd gofal cymdeithasol plant, yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig ac yn seicotherapydd seicoddeinamig sydd â mwy nag 20 mlynedd o brofiad gan gynnwys ymarfer rheng flaen, uwch arweinyddiaeth a’r byd academaidd. Mae wedi cyhoeddi mwy na 40 o gyhoeddiadau academaidd ac adroddiadau ymchwil, gan gynnwys dau lyfr ac mae wedi arwain sawl astudiaeth yn edrych ar gyfranogiad plant, eiriolaeth rhieni a gwneud penderfyniadau yn rhan o systemau amddiffyn plant.