Gweminar:
Sut gallwn ni manteisio ar bŵer Modelau Iaith Mawr er budd plant a theuluoedd?

Cyflwynwyr: Dr Verity Bennett, Dr Fernando Alva Manchego and Dr Aleksandra Edwards (Prifysgol Caerdydd)

Dyddiad: Dydd Mawrth 24 Tachwedd
Amser: 13:00 – 14:00
Lleoliad: Ar-lein, Teams

Abstract

Mae Modelau Iaith Mawr (LLM – math o ddeallusrwydd artiffisial) yn datblygu ar gyflymder rhyfeddol, ac wedi dod yn rhan fwyfwy o fywyd bob dydd. Mae gan y dechnoleg hon y potensial i newid sut mae gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol a’r cyhoedd yn cael mynediad at wybodaeth, yn ei deall ac yn ei chyfleu.

Fodd bynnag, mae Modelau Iaith Mawr (LLMs) wedi cael eu mabwysiadu ar gyflymder mor anhygoel ledled y wlad, fel na fu llawer o amser i ofyn cwestiynau pwysig, heb sôn am eu hateb, am sut y dylid dylunio, profi a defnyddio’r technolegau hyn ym maes gofal cymdeithasol.

Mae’r gweminar hwn yn dadlau na ddylen ni ofyn “A allwn ni ddefnyddio Modelau Iaith Mawr ym maes gofal cymdeithasol?”, ond yn hytrach “Sut gallwn ni wneud i Fodelau Iaith Mawr weithio ar gyfer gofal cymdeithasol, mewn ffordd gyfrifol, ddefnyddiol ac sy’n adlewyrchu cymhlethdod y gwaith?”.

Mae ymchwilwyr o’r Ganolfan Dysgu Gofal Cymdeithasol a Deallusrwydd Artiffisial (SCALE) ym Mhrifysgol Caerdydd yn mynd i’r afael â’r her hon drwy dri phrosiect cyffrous:

  1. A all Modelau Iaith Mawr gefnogi defnydd gweithwyr cymdeithasol o dystiolaeth yn eu gwaith? Mae Prosiect Offeryn Ymgysylltu Tystiolaeth Gwaith Cymdeithasol (SWEET) yn gweithio gydag awdurdod lleol yng Nghymru i ddatblygu offeryn pwrpasol sy’n ateb ymholiadau ymarfer gan ddefnyddio tystiolaeth ymchwil o ansawdd uchel.
  2. A all Modelau Iaith Mawr gyfieithu ymchwil ar gyfer ieithoedd lleiafrifol? Mae prosiect ‘Nid yw Cyfieithu’n Ddigon’ (TINE) yn edrych ar gyfieithu testun ymchwil i’r Gymraeg, gan hefyd wneud tystiolaeth academaidd gymhleth yn gliriach ac yn fwy hygyrch.
  3. A all Modelau Iaith Mawr gadw’r lleisiau sy’n bwysig? Mae’r prosiect hwn yn ystyried sut mae crynodebau trafodaethau Modelau Iaith Mawr yn cynrychioli lleisiau gwahanol, gan ganolbwyntio’n benodol ar degwch a chadw llais y plentyn.

Gan ddefnyddio’r astudiaethau hyn fel enghreifftiau, bydd Dr Verity Bennett, Dr Fernando Alva Manchego a Dr Aleks Edwards yn amlygu pam y mae angen trin gofal cymdeithasol fel maes ar wahân ar gyfer dylunio a datblygu Modelau Iaith Mawr, a sut y gallwn ni, drwy ymchwil cyfrifol a trylwyr, fanteisio’n well ar eu potensial er budd plant a theuluoedd.

Bywgraffiadau

Dr Verity Bennett is a Senior Research Fellow at Cardiff University, working in the Centre for Social Care and Artificial Intelligence Learning (SCALE). Her research includes evaluating safeguarding interventions and exploring how artificial intelligence can improve access to information, support evidence-informed practice and strengthen multi-agency working to improve outcomes for children and families.

Dr Aleksandra Edwards is a Research Associate at Cardiff University specialising in responsible AI and natural language processing in social care, health and safeguarding. Through the Centre for Social Care and Artificial Intelligence Learning (SCALE), she works with practitioners and public contributors to explore how AI can support professional judgement while preserving important context and people’s perspectives. Her recent work has focused on evaluating large language models in social care and policy settings.

Dr Fernando Alva Manchego is a Senior Lecturer in the School of Computational and Mathematical Sciences at Cardiff University, where he is part of the Cardiff NLP group. His research focuses on text adaptation, simplification, and readability assessment, with the goal of building systems that make language more accessible to diverse audiences across languages. He works on applied projects in education, health, and social care, including TINE (plain-language adaptation of multilingual science) and SWEET (an evidence appraisal tool for social work). His work combines computational methods with people-centred evaluation and collaboration with practitioners and communities.