Gweminar:
Cefnogi anghenion pobl am gariad ac agosatrwydd: beth yw rôl gofal cymdeithasol iechyd meddwl?

Cyflwynydd: Brynmor Lloyd-Evans, UCL

Dyddiad: 22 Medi 2026
Amser: 13:00 – 14:00
Lleoliad: Ar-lein, Teams

Crynodeb

Bydd y sgwrs hon yn trafod yr angen am gymorth i ddatblygu perthnasoedd rhamantus/clòs cadarnhaol i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl. Bydd yn rhoi trosolwg o’r dystiolaeth gyfredol ynghylch safbwyntiau ymarferwyr a phobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, a’r rhwystrau a’r heriau a welir wrth drafod neu gynnig cymorth yn ymwneud â pherthnasoedd rhamantus neu glòs. Ystyrir modelau gwahanol o ofal a chymorth, a gwersi posibl o sectorau gofal cymdeithasol eraill.

Mae’r sgwrs hon yn gobeithio annog trafodaeth ynghylch a ddylai gweithwyr cymdeithasol a staff gofal cymdeithasol siarad â phobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl am eu hanghenion a’u dymuniadau o ran perthnasoedd rhamantus neu glòs – ac os felly, sut y gallent wneud hynny a pha gymorth y gellid ei gynnig?

Biography

Mae Brynmor Lloyd-Evans yn Athro Iechyd Meddwl a Chynhwysiant Cymdeithasol yn Adran Seiciatreg UCL. Mae’n gyd-gyfarwyddwr ar Uned Ymchwil Polisi Iechyd Meddwl yr NIHR ac ar Rwydwaith Ymchwil BRC ar Unigrwydd ac Ynysu Cymdeithasol ym maes Iechyd Meddwl. Prif ddiddordebau ymchwil Bryn yw gofal ar gyfer argyfyngau iechyd meddwl, a pherthnasoedd cymdeithasol ac unigrwydd. Mae’n weithiwr cymdeithasol cofrestredig sydd wedi ymarfer ym maes tai iechyd meddwl fforensig â chymorth ac mewn timau iechyd meddwl yn y gymuned.