Woman in a meeting with laptop

Gweminar:
Beth yw ymarfer da wrth weithio gyda rhieni ym maes gwaith plant a theuluoedd?

Cyflwynydd: Dorottya Cserző, Prifysgol Caerdydd

Dyddiad: 16 Medi 2026
Amser: 12:00 – 13:00
Lleoliad: Ar-lein, Teams

Crynodeb

Mae gofyn i wasanaethau plant effeithiol weithio gyda rhieni, ond ychydig iawn o ymchwil sydd wedi arsylwi’n uniongyrchol ar y sgyrsiau hyn, sydd yn aml yn gymhleth ac weithiau’n anodd. Bydd hanner cyntaf y sgwrs hon yn rhannu canfyddiadau o astudiaethau a fu’n arsylwi ar dros 300 o recordiadau o waith er mwyn nodi nodweddion allweddol ymarfer effeithiol. Bydd yn cyflwyno cynllun codio dibynadwy at ddibenion sgiliau gwaith cymdeithasol craidd ac yn cyflwyno canfyddiadau allweddol o astudiaethau sy’n defnyddio’r codau hyn. Bydd yr ail hanner yn cymharu barn rhieni, oedolion sydd â phrofiad o ofal a gweithwyr cymdeithasol â’r cynllun codio mewn perthynas ag arsylwadau ymarfer. Bydd y seminar yn dod i ben drwy gynnig pedwar dimensiwn craidd o ymarfer da wrth weithio gyda rhieni ym maes gwaith cymdeithasol plant a theuluoedd a gwneud awgrymiadau ar sut y gall unigolion a sefydliadau gefnogi rhagoriaeth yn y meysydd hyn.

Bywgraffiad

Mae Dorottya yn Gydymaith Ymchwil yn y Ganolfan Gofal Cymdeithasol a Dysgu Deallusrwydd Artiffisial (SCALE). Hi oedd prif ymchwilydd prosiect Barn Gymharol a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a oedd yn ystyried beth sy’n ymarfer da mewn cyfarfodydd rhwng gweithwyr cymdeithasol a rhieni o safbwynt rhieni a phobl ifanc sydd â phrofiad o wasanaethau cymdeithasol yn ogystal â gweithwyr cymdeithasol. Wrth weithio yn (CASCADE), bu’n rhan o ddau brosiect ymchwil a oedd yn trin a thrafod camfanteisio’n droseddol ar blant. Mae gan Dorottya PhD mewn Iaith a Chyfathrebu a’i maes ffocws presennol yw datblygu cymhwysedd DA yn y gweithlu gofal cymdeithasol.