Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

11 Gorffennaf 2023
9:00 AM – 3:00 PM
Online

Bydd yr hyfforddiant undydd hwn yn cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o orbryder, ac yn helpu i sicrhau atebion ymarferol i gefnogi pobl ifanc.

Roedd problemau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc yn cynyddu cyn y pandemig ac yn ystod y cyfnod clo, ac ers hynny, mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc ac oedolion yn profi rhyw fath o bryder.

Bydd y cyfranogwyr yn dod yn gyfarwydd â Damcaniaeth Polyvagal a gwaith Dr Stephen Podges, ac â thrawma a gwaith Dr Bessel van der Volk a sut mae trawma’n effeithio ar PTSD ac OCD. Bydd iechyd yn cael ei ystyried, ynghyd â sut gall gorbryder gynyddu lefelau cortisol, lefelau siwgwr yn y gwaed, a diabetes a chlefyd y galon. Bydd yr hyfforddiant yn edrych ar y cynnydd mewn gorbryder, ac yn archwilio rhesymau cyn, yn ystod ac wedi’r pandemig am y cynnydd hwnnw.

Deilliannau Dysgu

  • Cynyddu dealltwriaeth o’r gwahanol fathau o gyflyrau gorbryder a’u hachosion, megis Anhwylder Gorbryder Cyffredinol, OCD, PTSD a ffobiâu dwys
  • Adnabod yr arwyddion a’r symptomau i sylwi arnynt
  • Sylweddoli sut mae gorbryder yn effeithio ar y meddwl, y corff ac ymddygiad cysylltiedig â hynny
  • Am beth dylech chi edrych os byddwch chi’n tybio bod rhywun yn cael trafferthion iechyd meddwl
  • Gwybod sut mae cael y trafodaethau hyn gyda chleientiaid pan fydd gweithwyr proffesiynol yn pryderu
  • Deall pam mae salwch cysylltiedig â phryder ar gynnydd
  • Technegau ynghylch sut mae lleihau straen a gwybodaeth a fydd yn cynyddu eich hyder a’ch effeithiolrwydd yn eich bywydau eich hun a bywydau’r rhai rydych chi’n eu cefnogi
  • Enghreifftiau o hanes achosion sy’n amlygu sut mae rhoi’r technegau sy’n derbyn sylw ar waith yn hwylus
  • Sut mae bod yn fodel rôl cadarnhaol a hybu iechyd meddwl a llesiant yn eich bywydau pob dydd

Ar gyfer pwy mae’r cwrs wedi’i fwriadu?

Gweithwyr rheng flaen fel Gweithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Iechyd Proffesiynol, Staff Addysg a Chymorth, ac ymarferwyr Tai a Gwaith Ieuenctid.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.