Sylwer: Cynhelir y digwyddiad hwn gan sefydliad allanol ac fe’i rhennir i dynnu sylw at gyfleoedd a allai fod o ddiddordeb i’n cymuned. Nid yw wedi’i drefnu na’i gymeradwyo gan ExChange, a dylid gwneud pob archeb, taliad ac ymholiad yn uniongyrchol gyda darparwr y digwyddiad. Nid yw ExChange yn gyfrifol am y cynnwys, y cyflwyniad nac unrhyw newidiadau sy’n ymwneud â’r digwyddiad hwn.
Ydych chi’n chwilio am ddiwrnod allan RHAD AC AM DDIM i’r teulu’r haf hwn?
Dewch i gwrdd â hoff gymeriadau eich plant bach yng Nghanolfan siopa Dewi Sant! Dewch i ddweud helo wrth Bluey a Bingo, Chase a Skye, Sonic the Hedgehog™ a rhagor yn y digwyddiadau cyfarfod â chymeriadau i blant.
Bob dydd Mercher rhwng 22 Gorffennaf a 26 Awst
Canolfan siopa Dewi Sant, Canol Dinas Caerdydd
Peidiwch â cholli’r gweithgaredd hwyliog hwn yn ystod gwyliau’r ysgol! Mae’n berffaith i greu atgofion haf hudolus!
Sam Tân – Dydd Mercher 29 Gorffennaf
Chase a Skye – Dydd Mercher 5 Awst
Sonic the Hedgehog™ – Dydd Mercher 12 Awst
Peppa a George – Dydd Mercher 19 Awst
Y Gruffalo – Dydd Mercher 26 Awst
Cadwch eich lle ar-lein yma.
