Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
5 Gorffennaf 2023
1pm to 5pm
Hoffem estyn gwahoddiad i chi ddod i gynhadledd flynyddol gyntaf y rhwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar (CREY). Bydd y gynhadledd hybrid hon ym Mhrifysgol Abertawe ac ar-lein yn canolbwyntio ar rannu arfer gorau a gwaith cyfredol ynghylch gwrando ar leisiau plant ifanc.
Bydd y siaradwyr yn cynnwys:
- Dr Lorna Arnott (Prifysgol Strathclyde) Diwylliant llais yn ystod plentyndod cynnar: atafaelu, cyfranogiad a grymrychwch
- Rhona Matheson ac Anne McFadyen (Aelodau o Grŵp Cynghori a Gweithredu ar Iechyd Meddwl Babanod – Llywodraeth yr Alban) Canllawiau Arfer Gorau o ran Lleisiau Babanod a’r Addewid i Fabanod
- Natalie Canning (y Brifysgol Agored) Fframwaith Grymuso – Grymuso Plant trwy Chwarae (CEiP)
- Dr Jane Waters-Davies (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant) Y plentyn galluog: cysyniad trothwy ar gyfer addysg a gofal cynhwysol mewn plentyndod cynnar
- Dawn Jones (Prifysgol Wolverhampton) Barn onest ar eistedd yn gefnsyth, amser aur a siartiau gwobrwyo: casglu barn plant 4 blwydd oed ar addysgeg ymddygiadol yn y dosbarth derbyn
- Dr Sarah Chicken (Prifysgol Gorllewin Lloegr) Lansio Gwaith Ymchwil i Gyfranogiad Plant mewn Ysgolion
- Paula Timms (Plant yng Nghymru) dathlu pen-blwydd Plant yng Nghymru yn 30 oed
Archebwch eich lle AM DDIM isod a dewiswch p’un ai i ddod yn bersonol neu ar-lein.
Mewn cydweithrediad â Chyfranogiad Plant mewn Ysgolion
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.