gan Jenny Krutzinna a Marit Skivenes (Prifysgol Bergen, Norwy)

Child and Family Social Work, cyfrol 26, rhifyn 1, tudalennau 50 – 60 

Ysgrifennwyd yr adolygiad gan Dr David Wilkins

Ar ba gwestiwn mae’r astudiaeth hon yn canolbwyntio?

Mae’r papur hwn yn adrodd ar astudiaeth o Loegr, yr Almaen a Norwy, lle’r edrychodd yr awduron ar sut roedd gallu rhianta mamau’n cael ei asesu, ei ddeall a’i gyfiawnhau mewn perthynas â mynd â’u babanod newydd-anedig oddi arnynt. 

Sut aethon nhw ati i astudio hyn?

Mae’r data’n cynnwys dyfarniadau llys ysgrifenedig o’r tair gwlad, a wnaed mewn perthynas â babanod newydd-anedig. Mae’r papur yn cynnwys cyfanswm o 117 o achosion o’r fath – 27 o’r Almaen, 76 o Norwy ac 14 o Loegr. Edrychodd yr awduron ar y dyfarniadau ysgrifenedig hyn a cheisio dadansoddi’r wybodaeth a’r cyfiawnhad ynddynt oedd yn berthnasol i’r penderfyniad terfynol. Hefyd aethon nhw ati i gyfweld â nifer fach o farnwyr (neu benderfynwyr eraill yn y llys) i helpu i sicrhau bod eu dadansoddiadau yn rhesymol. Gan ddefnyddio’r dyfarniadau llys, aethant ati i) i fapio nodweddion yr achosion, ii) nodi trafodaethau am rieni a gallu rhianta, iii) eu codio ar gyfer ffactorau risg yn gysylltiedig â rhieni a iv) edrych am anghysondebau a chymryd camau i sicrhau bod eu dadansoddiad yn ddibynadwy. Roedden nhw’n canolbwyntio ar famau yn unig, ac nid tadau, oherwydd eu “pwysigrwydd cymharol o ran babanod newydd-anedig ac absenoldeb eang tadau [o’r achos llys]” (t 53). 

Beth oedd eu canfyddiadau?

Roedd llawer o’r mamau yn ifanc iawn, gyda bron i hanner (41%) yn 21 neu’n iau. Roedd gan 19 o’r mamau blentyn arall eisoes mewn gofal, ac roedd gan dros draean (36%) eu hanes eu hunain o ymwneud ag amddiffyn plant. Arweiniodd cant o’r achosion (86%) at fynd â’r babi newydd-anedig oddi arnynt. Nodwyd cyfartaledd cymedrig o fwy na thri ‘ffactor risg’ ym mhob achos (3.6 yn Lloegr, 3.3 yn yr Almaen, 5.6 yn Norwy). Roedd y rhain yn cynnwys diffyg empathi at y plentyn (mewn 60.7% o achosion), cymhwysedd rhianta gwael (59%), salwch meddwl (58.1%), cam-drin yn ystod plentyndod (53%), diffyg cydymffurfiaeth (50.4%), gwadu problemau (47%), camddefnyddio sylweddau (28.2%) ac anabledd dysgu (28.2%). Nodwyd nifer o ‘ffactorau lleihau risg’ hefyd, gan gynnwys parodrwydd i ymgysylltu â gwasanaethau (58.1%), cymhwysedd mewn rhai meysydd (24.8%) a chydnabod problemau (23.1%). Yn gyffredinol, roedd dyfarniadau’r llys yn cynnwys mwy o wybodaeth am ffactorau risg na ffactorau lleihau risg, ac roedd gwahaniaethau clir rhwng y gwledydd mewn perthynas â pha ffactorau y soniwyd amdanynt yn fwyaf ac yn lleiaf aml. Yn y dyfarniadau yn aml roedd diffyg ymdrech i gydbwyso rhwng y ffactorau oedd cynyddu risg a’r rheini oedd yn lleihau risg wrth gyfiawnhau’r penderfyniad. 

Beth yw’r goblygiadau?

Yn y rhan fwyaf o’r achosion hyn, os nad pob un, mae’n bosibl fod y risg i’r babi newydd-anedig mor uchel fel bod ystyriaeth gytbwys o ffactorau lleihau risg yn amhosibl neu’n amherthnasol. A gan fod y babi’n newydd-anedig, mae hefyd yn wir fod y penderfyniad o reidrwydd yn cael ei wneud ar sail niwed a ragwelid yn y dyfodol, yn hytrach nag asesiad ar sail tystiolaeth o wir allu rhianta. Serch hynny, mae’r awduron yn gwahodd ymarferwyr i ystyried pwysigrwydd ffactorau lleihau risg a’r cydadwaith rhwng problemau rhianta a mesurau cymorth cymdeithasol a ddarperir neu y gellid eu darparu. Wrth gwrs, yn y tymor byr efallai nad oes dewis ond blaenoriaethu diogelwch plant – efallai ei bod yn llai amlwg a yw’r un peth yn wir am gynllunio tymor hir neu yn wir pan fydd y plentyn yn hŷn.  


Ysgrifennwyd yr adolygiad gan

Dr David Wilkins