PROSIECT MEDDYGOL
Awdur: Victoria Sharley, Myfyriwr Doethuriaeth – Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Caerdydd
Blwyddyn: 2017
Crynodeb: Nod y prosiect yw darparu mewnwelediad pellach trwy ymchwilio i ddarpariaeth ataliol ac ymyrraeth gynnar, o ran sut mae ysgolion ar hyn o bryd yn chwarae rhan mewn ymdrechion i nodi ac ymateb i esgeulustod.
Mae gan y prosiect dri amcan allweddol a’i nod yw darparu tystiolaeth a fydd yn llywio ymarfer da rhwng y sectorau addysg a gwasanaethau cymdeithasol trwy ymchwilio:
- graddau cyfranogiad ysgolion cynradd ac uwchradd prif ffrwd wrth nodi ac ymateb i esgeulustod plant
- y perthnasoedd rhwng addysg a’r gwasanaethau cymdeithasol wrth ymateb i blant a’u rhieni pan fyddant yn pryderu bod plentyn yn profiadu esgeulustod
- profiadau staff ysgol mewn ystod o wahanol rolau wrth ymateb i blant a’u rhieni, pan fyddant yn pryderu bod plentyn yn cael ei esgeuluso