Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru
Mae gofid a achosir i bobl ifanc a’u teuluoedd oherwydd materion yn ymwneud â phontio o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion yn fater sy’n codi’n barhaus, ac rwy’n ei weld yn llawer rhy aml. Os bydd pontio’n cael ei drefnu’n wael, heb gynnwys plant a’u teuluoedd yn ystyrlon yn y broses a’u gadael yn teimlo bod pawb wedi cefnu arnyn nhw, gall y canlyniadau fod yn bellgyrhaeddol.
Clywaf yn llawer rhy aml gan bobl ifanc, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol am sefyllfaoedd sy’n swnio fel rhywbeth o waith Kafka– menyw ifanc yn cael ei deffro am 2am o’i gwely yn yr ysbyty ar ei phen-blwydd yn 18 oed gan ddau ddyn nad oedd hi’n eu hadnabod, yn dweud wrthi y byddai’n cael ei symud i ward oedolion oherwydd ei bod bellach yn 18 oed; person ifanc sy’n profi argyfwng iechyd meddwl yn cael ei roi ar ward oedolion oherwydd bod dim gwelyau priodol ar gael ar eu cyfer; neu anallu i ragweld yr angen am gynllun gofal ar y cyd rhwng asiantaethau pan fydd person ifanc yn troi’n 18 oed er gwaethaf y ffaith eu bod yn hysbys i’r holl wasanaethau perthnasol ers blynyddoedd.
Yn ôl yn 2018, fe wnes i gyhoeddi adroddiad o’r enw ‘Paid dal yn yn ôl’. Cymerwyd y teitl o rywbeth dywedodd person ifanc ag anabledd dysgu wrthyn ni: ‘Paid dal yn ôl na bod â chywilydd am dy anabledd’. Er mwyn i bobl ifanc beidio â dal yn ôl, mae angen peidio dal nhw’n ôl; gan system sydd ddim yn ymateb i’w hanghenion, beth bynnag yw’r trothwyon, ac nad yw’n wir yn eu gwerthfawrogi fel arbenigwyr ar eu gofal eu hunain, a phartner gweithredol yn eu cynllun gofal a’u penderfyniadau.
Dyma rai negeseuon allweddol o’r adroddiad hwnnw, a gyfunodd ganfyddiadau o ymgynghoriad â 99 o bobl ifanc ag anableddau dysgu, 187 o rieni a gofalwyr, a 43 o weithwyr proffesiynol:
- Ymddengys bod cyfranogiad pobl ifanc mewn cynllunio a gwneud penderfyniadau ar gyfer eu hanghenion yn isel iawn
- Mae rhai pobl ifanc yn wynebu newid sylweddol o ran faint o gefnogaeth maen nhw’n ei chael ar ôl cyrraedd 18 oed oherwydd trothwyon gwahanol
- Mae gan bob gwasanaeth ffyrdd gwahanol o drosglwyddo i wasanaethau i bobl dros 18 oed. Mae cael gweithiwr allweddol neu wasanaeth pontio yn werthfawr iawn.
- Mae pobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol i gyd yn cytuno bod disgwyl o hyd i bobl ifanc ag anableddau ffitio i mewn i wasanaethau sydd eisoes yn bodoli, gydag opsiynau cyfyngedig os nad yw hynny’n addas i’w hanghenion
Gwnaeth yr adroddiad gyfres o argymhellion oedd yn cynnwys:
- Diweddaru canllawiau ar gynllunio pontio amlasiantaeth
- Sicrhau bod pobl ifanc yn chwarae rhan weithredol a chanolog wrth gynllunio eu gofal
- Sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn gwybodaeth glir am eiriolaeth a mynediad ati, a’r pethau dylen nhw fedru eu hawlio
- Integreiddio gwasanaethau drwy waith Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol
Er gwaethaf rhai datblygiadau cadarnhaol rwy’n eu hamlinellu isod, rwy’n dal i bryderu am y diffyg cynnydd sylweddol mewn sawl un o’r meysydd hyn.
Mae Côd ADY newydd Llywodraeth Cymru yn nodi ystyriaethau y mae angen eu cynnwys wrth gynllunio ar gyfer pontio. Mae hyn yn cynnwys gwaith amlasiantaeth, ac mae’n amlinellu rôl allweddol Cynlluniau Datblygu Unigol wrth gynllunio ar gyfer pontio.
Rwy’n falch o ddweud bod nifer o Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol bellach yn gwneud gwaith penodol yn y maes hwn. Mae rhai hefyd yn gwneud yn dda o ran cynnwys pobl ifanc a theuluoedd i’w cynghori. Yn fuan bydd canllawiau newydd yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar gynllunio pontio. Fodd bynnag, er bod y canllawiau hyn yn pwysleisio’r angen am gynllunio amlasiantaeth, mater i Fyrddau Iechyd yn unig yw rhoi hynny ar waith.
Rydyn ni’n dal i orfod pwyso i sicrhau bod eiriolaeth mewn gwasanaethau iechyd ar gael ledled Cymru.
Mae rhai arwyddion calonogol mewn rhai ardaloedd, ond a ydyn ni’n gweld y newid diwylliant sy’n angenrheidiol a fydd yn golygu bod pobl ifanc yn cael cymorth di-fwlch wrth iddyn nhw dyfu’n oedolion?
Dair blynedd yn ddiweddarach, mae’r cynnydd yn boenus o araf, ond mae rhywfaint o egin gwyrdd yr ydyn ni’n gobeithio fydd yn tyfu’n strwythurau cadarn o gymorth amlasiantaeth cydlynus, dan arweiniad pobl ifanc ar gyfer pobl ifanc ag anableddau dysgu wrth iddyn nhw symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion.
Medi 2021