Ar y 26ain o Fawrth, hwylusodd NSPCC Cymru weithdy ymarferydd ar ‘BoblBroffesiynol yn Torri’r Tawelwch: Cefnogi pobl broffesiynol i ymateb i ddatguddiadauplant o gamdriniaeth’. Mae nhw’n lansio eu hadnodd amddiffyniad ‘Rhoi gwybod iblant eich bod yn gwrando’ ar gyfer pobl broffesiynol, er mwyn ceisio dangos i blant a phobl ifanc eich bod yn barod i wrando pan maen nhw eisiau siarad.

Cychwynnodd y gweithdy wrth amlinellu datguddiadau plant. Anogwyd myfyrwyr i roieu hunain yn esgidiau’r person proffesiynol sy’n delio gyda datguddiad tawel yn y fideo. Sut bydden nhw’n teimlo?• “Pryderus”• “Ydy hyn fy swydd i?”• “Wedi dychryn neu’n pryderu am ddiffyg hyfforddiant”• “Ofn cael hi’n anghywir”• “Pryderus am agor ‘can of worms'”

Yna, gofynnwyd i’r grŵp i ddangos pa mor hyderus roedden nhw’n teimlo wrth yndelio gyda datguddiadau o gamdriniaeth.

​​SML

Ystyriaethau a thrafodaeth am beth sydd yn neu gall wneud i’r grŵp deimlo’n fwyhyderus:

“Canllawiau clir am y gyfraith ac arweiniad ar sut i ddelio gyda datguddiadau” 

“Teimlo’n hyderus am y broses sydd i ddod”

“Digon o gymorth yn y gweithle”

“Rhwydwaith cymorth proffesiynol”

“Cymryd amser i ystyried ymarfer er mwyn gwella”

“Cael yr amser i wneud y gwaith yn gywir”

“Goruchwyliaeth dda”

“Adnabyddiaeth o iaith ddiweddar mae pobl ifanc a phlant yn ei ddefnyddio”

“Hyderus yn erbyn cymwys”

“Hyfforddiant, chwarae rôl neu efelychiad o’r holl broses”

Amlygodd y tîm NSPCC Cymru bod yna sawl ffordd o ddiffinio beth maent yn galw’datguddiad’. Mae diffiniad nhw’n cynnwys yr holl ffyrdd byddai plentyn am ddechraurhannu ei brofiad gydag eraill. Gall hyn fod naill ai’n ferfol neu’n ddi-berfol a gallwchei ystyried yn fwy fel taith ac nid fel un digwyddiad. Mae datguddiadau yn gallu bod yn gymhleth ac yn dameidiog ac nid bob amser ar lafar. Gall datguddiadau ddigwyddtrwy ymddygiad y plentyn. Yn olaf, nad yw datguddio bob amser yn arwain at ‘honiad’ o gamdriniaeth.

Mae rhai darganfyddiadau allweddol o ymchwil blaenorol yn cynnwys:• Mae llawer o blant yn oedi datguddio camdriniaeth, ar gyfartaledd 7.8 blwyddyn• Mae rhwystrau i ddatguddio camdriniaeth yn cynnwys: Arwahaniad, Cysylltiademosiynol i’r tramgwyddwr, ofn/pryder am y canlyniadau, Diffyg dealltwriaetham ddiffiniad camdriniaeth a neb yn gwrando i’r plentyn nac yn gofyn i’rplentyn am gamdriniaeth• Mae pobl ifanc yn aml yn siarad allan er mwyn amddiffyn brodyr a chwiorydd iaurhag dioddef yr un gamdriniaeth.• Mae ffrindiau, mamau ac athrawon yn fwy tebygol i wynebu’r datguddiadau o gamdriniaeth gyntaf wrth bobl ifanc• Ar gyfartaledd, adroddwyd 90% o bobl ifanc brofiadau cymysg neu negyddol arôl datguddio camdriniaeth. Dim ond 10% sy’n adrodd cael taith gadarnhaol• Dywedodd pobl ifanc wrth NSPCC Cymru “rhowch eich hun yn ein hesgidiauni”, “peidiwch a defnyddio iaith gorfforol negyddol” a “gwrandewch ar bethsydd gennym i ddweud” yn ystod datguddiadau o gamdriniaeth

Does dim llawer iawn o ymchwil yn edrych ar y broses o safbwynt y person proffesiynol. Dyma beth geisiodd NSPCC ei wneud. Mae nhw wedi creu adnoddnewydd “rhoi gwybod i blant eich bod yn gwrando” sy’n ystyried datguddiadau o gamdriniaeth, o safbwynt gweithwyr proffesiynol.