Digwyddiad rhwydweithio AM DDIM i raddedigion cyrsiau arweinyddiaeth yr IPC yng Nghymru

15 Medi 2026

Dan ofal Sefydliad Gofal Cyhoeddus (IPC) Prifysgol Brookes Rhydychen – Ymunwch â ni am ddigwyddiad deinamig sy’n ysgogi’r meddwl ac yn trafod sut mae arweinyddiaeth yn newid yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. Drwy gyfres o weithdai rhyngweithiol, byddwn ni’n ymdrin â’r dulliau, yr heriau a’r syniadau diweddaraf am arweinyddiaeth sy’n llunio arferion heddiw.

I gael rhagor o wybodaeth a chofrestru